Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/370

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aelodau i Grist. Nid yw ei farwolaeth i'w golygu yn cael ei thalu yn y fath fodd dros ddynolryw, fel ag y byddo hyd yn nod i'r rhai na chaffont eu haileni berthynu i'r prynedigaeth drwyddi; ond, yn hytrach, megis peth wedi ei wneuthur mewn engraifft unigol dros bawb gyda'u gilydd, sydd i'w ail wneyd, mewn sacrament unigol, gan bob un ar wahan. Oblegyd y mae cwppan anfarwoldeb, yr hwn a gymmysgwyd megis o'n gwendid ni ac o'r nerth dwyfol, ynddo ei hunan yn wir yn cynnwys yr hyn a all fod yn llesol i bawb, ond os na bydd iddo gael ei yfed nis gall feddyginiaethu neb" (Ibid. Col. 2536). Y mae llawer o gymmysgedd yn y Sylwadau hyn, ac y mae rhai o'r ymadroddion yn ymddangos i ni yn hynod o aneglur, a rhai o honynt, can belled ag yr ydym ni yn eu deall, braidd yn annghyson â'r lleill; eto, ar y cwbl, ni a dybiem fod yn hawdd canfod yma amcan i osod marwolaeth Crist allan, ynddi ei hunan ac o ran ei gwerth tufewnol, yn rhywbeth sydd yn perthyn i'r byd yn gyffredinol, tra, yr un pryd, nad ydyw mewn ystyr briodol yn brynedigaeth i neb ond i'r rhai a wnelont ddefnydd personol o honi iddynt eu hunain.

Bu Prosper farw yn y flwyddyn 463. Wedi ei farwolaeth ef, y mae yn ymddangos i'r golygiadau Hanner-Pelagiaidd a wrthwynebid ganddo, wneuthur y fath gynnydd yn Ffrainc, yn benaf trwy ddylanwad Faustus, esgob Riez, yn nhalaeth Provence, fel ag y gorfodwyd un Lucidus, yr hwn oedd yn perthynu i'w esgobaeth ef, ac yn ddadleuwr gwresog dros olygiadau Augustine a Prosper, ac yn enwedig yn dysgu Prynedigaeth Neillduol, yn ystyr fanylaf yr ymadrodd, i alw ei eiriau yn ol, ac i gondemnio yr hyn a ddysgasid ganddo yn flaenorol. Cyhoeddai Faustus felldithion ofnadwy arno oblegyd ei syniadau, a bygythiai ei ddwyn ger bron rhyw Gymmanfa ag oedd y pryd hyny, sef yn y flwyddyn 472, yn eistedd yn Arles. Arswydodd y truan gymmaint fel ag yr ysgrifenodd ddadgyffesiad, a diangodd felly rhag dialedd ei esgob.

Nid ydym yn cael fod y pwnc hwn wedi tynu dim sylw neillduol ar ol hyn, hyd ganol y nawfed ganrif, pan yr ydym yn cael Gottschalck, neu fel y mae ei enw yn fynych yn y ffurf Lladin yn cael ei ysgrifenu, Gotteschalcus, yn tori allan yn bleidiwr gwresog i olygiadau Augustine, yn dadleu yn gryf dros Arfaeth ac Etholedigaeth Gras, ac yn amddiffynwr pendant a grymus i Brynedigaeth Neillduol. Yr oedd y gwr hwn, fel y gellir casglu oddiwrth ei enw, o deulu Germanaidd, er fod yn ansicr pa un ai yn Ffrainc ai yn Germany y ganwyd ef. Yr