Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/371

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd, dybygid, o waedoliaeth pendefigaidd, ac wedi ei ddodi gan ei rieni pan yn blentyn mewn mynachdy yn Fulda, yn Hesse—Cassel, Germany, lle yr oedd Rabanus Maurus yn Abbad, yr hwn a gydnabyddid fel un o'r gwyr galluocaf a dysgedicaf yn yr oes hono. Ymroddodd Gottschalck yma i'r efrydiau arferol yn y lle, ond chwennychai yn fawr gael bod yn rhydd oddiwrth y rhwymau mynachaidd yr ydoedd tanynt o'i febyd. Yn y flwyddyn 829, fe'i rhyddhawyd gan ryw lys eglwysig, a eisteddai yn Mentz, oddiwrth y rhwymau hyny. Appeliodd yr Abbad yn erbyn y rhyddhâd hwnw at yr Ymerawdwr; a thynwyd y rhyddhâd yn ol. Y mae pob lle i dybied i hyn fod yn achlysur drwg deimlad personol yn yr Abbad tuag at Gottschalck, oddiar yr hyn y tarddodd ei holl ofidiau canlynol. Gan nas gallai bellach fod yn gysurus yn Fulda, fe symmudodd i fynachdy yn Orbais, yn Ffrainc, yr hon a berthynai i esgobaeth Soissons. Yno efe a ymroddodd i fyfyrdodau duwinyddol, gan dalu sylw arbenig i ysgrifeniadau Augustine, a'r tadau eglwysig a gytunent âg ef. Rywbryd fe gymmerodd urddau eglwysig, ond, yn ol ei elynion, nid mewn dull hollol reolaidd; ac, yn ganlynol, fe adawodd y mynachdŷ, gan fyned allan i bregethu yr efengyl, ac yn enwedig, yn ol Hincmar, i daenu ei egwyddorion neillduol ei hunan, yn mhlith cenedloedd barbaraidd a phaganaidd parthau gogleddol Germany. Aeth oddiyno ar bererindod i Rufain; a phan yn dychwelyd oddiyno, yn y flwyddyn 847, fe lettyai yn Friuli, yn Italy, mewn tŷ a godasid gan Iarll Eberald i groesawi pererinion. Cyfarfu yno â Notting, yr hwn oedd newydd gael ei wneuthur yn esgob Verona. Aethant i ymddyddan ar egwyddorion crefydd; ac, yno, fe gyflwynodd ger bron y ddau y syniadau a goleddid ganddo am Arfaeth Duw, fel yn cynnwys Etholedigaeth a Gwrthode ligaeth. Gwnaeth Notting yn hysbysi Rabanus Maurus, yr hwn oedd erbyn hyn yn Archesgob Mentz, y syniadau neillduol a goleddid ac a daenid gan Gottschalck. Ysgrifenodd Rabanus ddau lythyr, un at yr Iarll Ebelard a'r llall at esgob Verona, yn condemnio y syniadau yn y modd mwyaf pendant. Pan clybu Gottschalck hyn, fe aeth o Italy i Germany i amddiffyn ei egwyddorion. Pan y cyrhaeddodd Mentz, fe gyflwynodd i Rabanus draethodyn a ysgrifenasid ganddo ar Arfaeth Duw, yn yr hwn yr honai nad oedd yn dysgu dim ond a ddysgasid gan Augustine. Galwyd Cymmanfa gan yr Archesgob yn Mentz, yn y flwyddyn 848, a gwysiwyd Gottschalck i ymddangos ger ei bron. Ond