Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/372

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

safai yn wrol dros ei egwyddorion ac ni alwai yn ol ddim a ddysgasid ganddo. Y canlyniad fu, fe gondemniwyd ei athrawiaeth, ac fe'i hanfonwyd yntau yn garcharor i'w gosbi, i'r esgobaeth y perthynai iddi, gyda llythyr oddiwrth y Gymmanfa at Hinemar, Archesgob Rheims yn Ffrainc, dan arolygiaeth yr hwn yr oedd esgobaeth Soissons, yn ei hysbysu am yr amgylchiadau. Yr oedd Hincmar yn gyfaill mawr i Rabanus, ac yn llawn gelyniaeth at syniadau neillduol Augustine, ac, yn ol pob tebygolrwydd, yn gwbl amddifad o ysbryd yr efengyl. Galwyd Cymmanfa gan Hincmar, yn y flwyddyn 819, yn Quiersy, i chwilio i mewn i'r achos. Eithr nid oedd dim yn tycio i gael gan Gottschalck alw ei eiriau yn ol, ond dadleuai yn gryf ac yn benderfynol dros ei olygiadau. Oblegyd hyn, fe'i condemniwyd megis heretic; diosgwyd ef o'i urddau offeiriadol; gorchymynwyd ei fflangellu yn dost â gwïail, a'i gau i fynu yn ngharchar. Ac fe weinyddwyd y ddedfryd greulawn hon yn ddiarbed ac hyd yr eithaf tuag ato. Cadwyd ef yn garcharor am weddill ei oes, yn mynachdŷ Hautvilliers. Parhaodd hyd y diwedd yn ddiysgog yn ei syniadau, a gwrthododd pan ar farw dynu yn ol ddim a ddysgasai. Bu farw tua y flwyddyn 869, a gwaharddwyd gan Hincmar iddo gael claddedigaeth Cristion.

Yr ydym dan lawer o anfantais i ffurfio barn gywir am y golygiadau a ddysgid gan Gottschalck ar Brynedigaeth, oblegyd nad oes genym ond y darluniad a roddir o honynt gan ei elynion a'i erlidwyr. Yn yr Hanes cyflawn a ysgrifenwyd gan yr Archesgob Usher am dano, ac am y dadleuon a achlysurwyd ganddo, yr ydym yn cael dwy Gyffes o'i Ffydd, wedi eu hysgrifenu ganddo ei hunan, un fer iawn, a'r llall yn feithach. Ond nid oes cyfeiriad uniongyrchol yn y naill na'r llall at y Prynedigaeth. Mae syniadau uchel ac eithafol yn cael en gosod allan ynddynt ar Ragarfaethiad ac Etholedigaeth, ac y mae yr iaith yn ddiau yn dra anochelgar; ond y mae y naill a'r llall yn anadlu yr ysbryd mwyaf crefyddol, a'r hwyaf, yn wir, yn y ffurf o gyfarchiad gostyngedig ac addolgar at yr anfeidrol ("Gotteschalci, et Praedestinatiana Controversia ab eo Mota Historia: una cum duplice ejusdem Confessione, nunc primum in lucem edita." Usher's Whole Works, Vol. IV. pages 207–233. Elrington's edition, Dublin, 1864). Mewn llythyr a ysgrifenwyd gan Hincmar at y Pab Nicholas, i'w amddiffyn ei hunan yn ngwyneb ei ymddygiadau tuag at Gottschalck, y mae yn ei gyhuddo, yn un peth, o ddysgu—"Na chroeshoeliwyd ein Harglwydd a'n Hiach-