Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/373

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awdwr Iesu Grist, ac na bu farw er prynedigaeth yr holl fyd, hyny yw, er iachawdwriaeth a phrynedigaeth pob dyn; ond yn unig dros y rhai a achubir" (Ibid. Vol. IV., page 16). Mae yn rhy anhawdd penderfynu, oddiwrth hyn, pa un a oedd efe yn golygu fod rhyw gyfeiriad yn yr iawn at ddynolryw yn gyffredinol, ai ynte a oedd yn ei olygu yn yr ystyr fanylaf a chyfyngaf, yn unig dros yr etholedigion. Yr ydym yn tueddu i dybied, oddiwrth y pedwerydd canon yn Nghyngor Quiersy, yn y flwyddyn 853, yn wrthwyneb i olygiadau Gottschalck, mai y syniad cyfyngaf a ddysgid ganddo ef. Y mae canon Quiersy fel y canlyn:—"Fel na bu erioed, nad oes, ac na bydd, yr un dyn na chymmerwyd ei natur gan ein Harglwydd Iesu Grist, felly ni bu erioed, nid oes, ac ni bydd, yr un dyn na bu Crist farw drosto; a hyny er nad ydyw pawb yn cael eu prynu trwy ddirgelwch ei ddioddefaint. Ond y mae nad ydyw pawb yn cael yn eu prynu trwy ddirgelwch ei ddioddefaint yn cyfodi nid oddiar ddiffyg mawredd a helaethrwydd yn y taliad, eithr oblegyd bai annghredinwyr, y rhai nad ydynt yn credu â'r ffydd sydd yn gweithio trwy gariad. Canys y mae cwppan iachawdwriaeth dynion a gymmysgwyd megis o'n gwendid ni ac o nerth dwyfol, ynddo ei hunan yn wir yn cynnwys yr hyn a all fod yn llesol i bawb, ond os na bydd iddo gael ei yfed nis gall feddyginiaethu neb" (Ibid. Vol. IV. pages 78, 79).

Ond er fod Hincmar wedi gallu cosbi Gottschalck, ni chafodd ei ffordd ei hunan yn hollol gyda golwg ar yr athrawiaeth a ddysgid ganddo. Fe gyfododd amryw wyr galluog i amddiffyn hono, ac i wrthdystio yn y modd mwyaf pendant yn erbyn y cam a wnaethid ag yntau. Yn mhlith y rhai hyn, ac yn benaf o honynt, yr oedd Prudentius, esgob Troyes; Ratramn, mynach o Corby, ac awdwr y traethawd galluog yn erbyn traws-sylweddiad; Florus, gweinidog yn Lyons; ac, yn enwedig, Servatus Lupus, Abbad Ferrieres, a Remigius, esgob Lyons. Ysgrifenodd Lupus, er amddiffyniad iddo, ei lyfr galluog a chymmedrol, ar Y tri Cwestiwn (Liber de tribus questionibus): sef, Yn Nghylch Ewyllys Rydd; Rhagarfaethiad Dyblyg; a Pha un ai dros bawb, ai ynte dros yr etholedigion yn unig, y bu Crist farw. Gyda golwg ar yr olaf, yr oedd yn dal gyda Gottschalck mai dros yr etholedigion yn unig y bu farw. Ond teimlai anhawsder i egluro geiriau Paul, "Yr hwn sydd yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig." Nis gallai, yn gyson â'i gyfundraeth, eu hesbonio ond mewn ystyr derfynol, ac yn