Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/374

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

golygu naill ai credinwyr yn unig, neu ynte bob math o ddynion. Addefai fod rhyw ystyr yn yr hwn y gellid dywedyd fod Crist wedi marw dros bawb a gyfranogent o'r Sacramentau. Ac y mae, yn y diwedd, yn caniatau, os ymddangosai gwadu prynedigaeth gyffredinol i ryw rai yn annghydweddol âg urddas y Prynwr, nad oedd efe yn gweled llawer o niwed ynddo, tra yr addefid fod y brynedigaeth yn effeithiol i bawb ag y mae Duw yn ewyllysio eu prynu.

Fe ysgrifenodd Remigius lawer iawn er amddiffyniad i Gottschalck, yn erbyn Rabanus, ac yn erbyn Hincmar, ac yn erbyn y Cymmanfaoedd a gondemniasent ei athrawiaeth. Y mae Usher, yn y llyfr y cyfeiriasom ato uchod, yn rhoddi dyfyniadau helaeth i ni o amryw o'r ysgrifeniadau hyn. Gyda golwg ar y condemniad a wnaethid gan Gyramanfa Quiersy ar athrawiaeth Gottschalck ar Brynedigaeth neillduol, y mae Remigius yn ysgrifenu fel hyn:—" Yn nghylch y taliad trwy waed ein Harglwydd, atkrawiaeth amlwg rhai tadau sanctaidd ydyw iddo gael ei roddi yn unig dros y rhai a gredant, yr hyn, fel yr ydym ni yn tybied, a ddysgwyd ganddo ef (Gottschalck) trwy eu darllen hwynt, ac a ofnai gondemnio. Eithr, gan fod tadau ereill yn gystal i'w cael na wadant fod y pris gogoneddus hwnw wedi ei roddi hyd yn nod dros y rhai na chredant byth, ac a fyddant farw yn eu hannuwioldeb eu hunain, gwell, fel yr ydym ni yn credu, ydyw i'r naill a'r llall gael eu cymmeradwyo na bod i'r un o'r ddau gael ei gondemnio; canys y mae yn eglur fod y blaenaf yn cael ei gadarnhau trwy awdurdod ddwyfol ac nid yw yr olaf i'w wadu o'i ddeall yn dduwiol" (Ibid. page 64).

Y mae hefyd ar gael sylwadau helaeth o eiddo yr eglwys yn Lyons, yn wrthwyneb i benderfyniadau Cymmanfa Quiersy yn achos Gottschalck. Y mae Usher wedi dyfynu rhanau o'r rhai hyn. Yn atebiad i'r canon ar Brynedigaeth, y maent, yn mhlith pethau ereill, yn dywedyd fel y canlyn:—" Am yr hyn a haerir, na bu, nad oes, ac na bydd, yr un dyn dros yr hwn na ddioddefodd Crist.' Yn nghylch y cwestiwn hwn, pa beth arall a allwn ateb, oddieithr i ni, yn gyntaf, ofyn i ac annog y rhai sydd yn penderfynu fel hyn i ymroddi i ystyried yn fanwl ac yn ffyddlon, rhag, trwy ystyried rhy ychydig ynnghylch yr hyn a ddywedwyd, eu bod yn llefaru ac yn ysgrifenu y cyfryw bethau yn wrthwyneb i'r ffydd Gristionogol, ac i'w cydwybodau eu hunain hefyd? Canys, heb son am y rhai sydd yn awr yn fyw neu a fyddant byw o