Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/377

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan Gymmanfa o'n brodyr, heb ddigon o ystyriaeth a gofal, oblegyd eu hanfuddioldeb, ac yn wir eu tuedd niweidiol, a'u cyfeiliorni gwrthwyneb i'r gwirionedd: ac hefyd am y lleill, a gynnwysir mewn pedwar ar bymtheg o'r ymresymiadau mwyaf anmhriodol" (gan gyfeirio at yr hyn a ysgrifenasid gan yr athronydd enwog John Scotus), " ac yn y rhai, er ei ymffrost nad oes dim yn cael ei ddysgu ynddynt yn ol doethineb y byd hwn, y mae ystryw y diafol yn hytrach i'w ganfod nag unrhyw ddadl dros y ffydd,—â'r naill a'r llall o'r rhai hyn, yr ydym yn ymwrthod yn hollol, fel pethau annheilwng o gael dim gwrandawiad gan y ffyddloniaid; ac yr ydym, trwy awdurdod yr Ysbryd Glan, yn gorchymyn fod i'r rhai hyn a phob peth o gyffelyb nodwedd gael cilio oddiwrthynt" (Usher Vol. IV., page 176).

Y mae yn amlwg iawn, dybygem ni, fod y Cymmanfaoedd y cyfeiriasom atynt yn awr yn derbyn ac yn dysgu Prynedigaeth Neillduol, yn yr ystyr fanylaf, er fod yn eglur hefyd, oddiwrth ddiwedd sylwadau eglwys Lyons, y rhai a ysgrifenwyd y mae braidd yn sicr gan Remigius, nad oeddent yn dal y syniadau hyn yn yr un ysbryd cul ac erlidgar ac annghristionogol, ag a ddangosasid gan bleidwyr y golygiad arall tuag at Gottschalck. Fel hyn y dywedant yno:—" Er y gallai eu golygiad " (y rhai a ddadleuent dros brynedigaeth gyffredinol) "fod yn cyfodi oddiar eu duwioldeb, eto er mwyn heddwch ac er mwyn duwioldeb tra pharchedig y tadau bendigedicaf, ni a ddymunem yn fawr iddo beidio cael ei ailgodi. Gan hyny, ni ddylai y naill ymosod mewn dadl yn erbyn y llall, na'r naill syniad gael ei gondemuio gan y llall. A chan, oblegyd ein hanwybodaeth ni, y dichon fod rhywbeth wedi ei guddio yn y mater hwn, ni ddylai dim gael ei benderfynu yn fyrbwyll; fel, pa ddull bynnag o lefaru arno a arferer ac a gymmeradwyer gan neb, na ddylai oherwydd hyny gael ei gyfrif yn heretic, oddieithr iddo ei wneuthur ei hunan felly trwy ei ysbryd ymrysongar." Y mae yn ymddangos i'r dadleuon a godasid gan Gottschalck ddyfod i derfyniad gyda'r ysbryd tangnefeddus hwn. Nid ydym yn cael dim dadl ar y pwnc hwn am oesoedd lawer ar ol hyn. Syrthiodd Duwinyddiaeth i ddwylaw yr hen Ysgolwyr Pabaidd; ac, er fod braidd bob cwestiwn wedi cael ei ddadleu ganddynt, nid ymddengys fod dim gwahaniaeth o bwys rhyngddynt ar Brynedigaeth. Yr oeddent oll yn cytuno yn y geiriad, fod Crist wedi marw o ran digonolrwydd dros bawb, ond yn effeithiol yn unig i'r etholedigion.