Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y plant wedi sylwi, y byddai rhai, o dan bregethau nerthol yn y capel, yn cael eu cynhyrfu i'r fath raddau nes tori allan i waeddi, weithiau mewn dychryn, ac weithiau mewn gorfoledd, a rhai yn syrthio i lewygfeydd, fel y byddai raid eu cymmeryd allan i'r awyr agored, ac arfer rhyw foddion er eu dwyn atynt eu hunain. Byddent hwythau yn fynych, dan bregethau John, yn ceisio eu dynwared. Y tro y cyfeiriwn ato, fe ddarfu i un o'r genethod oedd yn y gynulleidfa gymeryd arni fyned i lewyg, oddiar deimlad o'r hyn a draddodid ganddo. Yn ddioed, dechreuodd rhai o'r plant ereill ei dal i fynu, a rhyddhau ei dillad tua 'i mynwes, fel y gallai anadlu yn rhwyddach. Yna rhedodd bachgen direidus i'r tŷ i geisio cwpanaid o ddwfr; ond yn lle ei ddodi wrth ei gwefusau, fel y gallai yfed ychydig ddiferynau hono, pa beth a wnaeth ond taflu yr holl gwpanaid i'w mynwes gored. Erbyn hyn, ac yn y fan, yr oedd mwy na digon o fywyd yn yr hon a fuasai mewn llesmair; a thorodd allan yn ymladdfa wyllt rhyngddi â'r bachgen, fel nas gallai holl ymdrechiadau y plant ereill, am yspaid o amser, lwyddo i beri heddwch. Ond yr oedd y pregethwr bychan, trwy y cynhwrf oll, yn myned rhagddo gyda'i bregeth heb gymaint a gwên unwaith ar ei wefusau. Daliodd rhagddo nes y llonyddodd y gynnulleidfa i gael dibenu trwy weddïo. Cyfryw, yn wir, oedd ei sobrwydd gwastadol yn y gorchwyl fel yr oedd lliaws o grefyddwyr gwybodus a difrifol, y rhai o bryd i bryd a'i gwrandawent yn ddirgelaidd, yn synu ató, yn gystal a thuag at hynodrwydd annghyffredinol llawer o'r sylwadau a draethid ganddo.

Pan nad oedd efe ond ychydig fisoedd dros ddeng mlwydd oed, cafodd un o'r colledion mwyaf a all plentyn gael,–bu ei dad farw. Yr oedd y diwrnod hwnw yn ddiwrnod tywyll iawn iddo ef. Er nad oedd ond ieuanc, yr oedd yn ddigon hên, ac yn enwedig yn ddigon meddylgar, i ymdeimlo yn ddwys â'i golled, ac yr oedd ei hoffder o'i dad y fath fel nas gallai braidd hyd ddiwedd ei oes byth siarad am daro, na phrin gyfeirio ato, heb deimlo yn ddirfawr. Effeithiodd yr amgylchiad arno er dwysau i raddau mawr yr argraffiadau crefyddol yr ydoedd eisoes danynt, ac er cryfhau y tuedd oedd ynddo bob amser i gymdeithasu â'r byd anweledig, ac i fyfyrio llawer ar yr hyn a allai fod sefyllfa yr enaid ynddo wedi ei ymadawiad â'r byd hwn. Nid ydym yn ammheu nad ydoedd eisoes wedi dyfod i gyffyrddiad â'r cwestiynau. os nad wedi cael gafael mewn rhai o'r syniadau, ag a ddygwyd ganddo