Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/380

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y cynnrychiolwyr dros Loegr yn y Gymmanfa hon, yn enwedig Dr. Davenant a Dr. Ward, yn gryf iawn dros benderfyniad mwy eang ar y pwnc hwn. Mewn llythyr wedi ei ysgrifenu yn enw y pump, at Archesgob Canterbury, a'i ddyddio Mawrth 21, 1619, y maent yn dywedyd fel y canlyn:—"Wrth honi a datgan, yn yr Erthygl hon ac ereill, fod rhyw ffrwythau o farwolaeth Crist heb eu cylymu wrth yr Arfaeth o Etholedigaeth, ond yn cael eu rhoddi yn gyffredin, eto yn cael eu cyfyngu o fewn yr Eglwys Weledig (megis grasau ysbrydol a gwirioneddol, yn dilyn yr efengyl, ac yn cael eu cyfranu hyd yn nod i'r rhai nad ydynt wedi eu hethol), yr ydym yn ennill tir ar yr Arminiaid (Remonstrants), ac felly yn hawdd yn troi yn ol nid yn unig yr esiamplau o wrthgiliad hollol a ddygir yn mlaen ganddynt, ond hefyd y cyhuddiad atgas, fod twyll, yn ol ein hathrawiaeth ni, yn y cyhoeddiad cyffredinol o addewidion yr efengyl, fel yr ydym yn barod i brofi eto yn fwy amlwg. Eithr nid ydym ni, fel yr Arminiaid (Remonstrants), yn gadael budd marwolaeth ein Hiachawdwr yn rhywbeth penagored ac ansicr, megis rhywbeth yn cael ei gyflwyno yn ddiamcan i bawb yn ddiwahaniaeth, ac i'w gymhwyso trwy ryw weithred fympwyol o eiddo ewyllys dyn: ond yr ydym yn bendant yn datgan fod, er lles yr etholedigion, fwriad neillduol, o eiddo Crist wrth roddi yr offrwm, ac o eiddo Duw Dad wrth ei dderbyn; ac oddiwrth y bwriad hwnw gymhwysiad neillduol o'r aberth hwnw, mewn cyfranu ffydd a doniau ereill, sydd yn anfethedig yn dwyn yr etholedigion i afael iachawdwriaeth" (Letters from Dort, page 185; at the end of Haies' Golden Romains, Second impression, London, 1673).

Y golygiad hwn, a osodir allan fel hyn ganddynt hwy, ydyw yr un a dderbynir yn gyffredin gan y Duwinyddion mwyaf Calvinaidd, oddieithr Toplady neu ei gyffelyb, yn Eglwys Loegr, o'r pryd hyny hyd y pryd hwn; a dyma y mae yn amlwg lais pendant ei Herthyglau a'i Chatecism hi. Y mae yn ymddangos, pa fodd bynnag, fod y syniad arall wedi ennill cymmaint tir, yn y blynyddoedd canlynol, yn mhlith y Puritaniaid yn Lloegr a'r Presbyteriaid yn Scotland, fel, erbyn y Gymmanfa Fawr a ymgyfarfu yn Westminster, yn haf y flwyddyn 1643, ac a barhäodd i eistedd hyd yr Hydref, 1647, yr oedd wedi dyfod yn gredo cyffredinol; yn gymmaint felly fel y corphorwyd ef, yn eu Cyffes Ffydd a'u Catecism, fel rhan hanfodol o Galviniaeth bur; ac y mae y rhai sydd yn ei goledd, hyd y dydd heddyw, yn edrych arnynt