Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/381

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu hunain fel y Calviniaid gwirioneddol, ac yn tueddu i olygu y lleill, sydd yn cymmeryd yr olwg eangach, er mai un o'r rhai hyny oedd Calvin ei hunan, heb fod yn gwbl iach yn y ffydd. Yr oedd er hyny aml un yma a thraw yn glynu wrth yr hen syniad, ac yn cymmeryd geiriau y Bibl yn eu hystyr eang a chyffredinol, ac yn gwneuthur hyny heb i'r gwahaniaeth rhyngddynt a'u brodyr fod yn achlysur i unrhyw deimlad annghysurus, na pheri unrhyw ddadl rhyngddynt. Ond, tua y flwyddyn 1689, fe ail-gyhoeddwyd Pregethau Dr. Crisp gan ei fab, gydag ychwanegiad o ryw nifer o rai newyddion attynt, wedi eu cymmeryd allan o'i lawysgrif ef ei hunan. Er mwyn rhoddi boddlonrwydd i'r cyffredin fod y rhai newyddion mewn gwirionedd yn eiddo Dr. Crisp, fe ddarfu i ryw nifer o weinidogion Llundain, ar gais y mab ac ar gais y cyhoeddwr, ysgrifenu a dodi eu henwau wrth Hysbysiad byr yn sicrhau hyny, ond heb ddatgan un ganmoliaeth i na chymmeradwyaeth o'r pregethau eu hunain. Yn mhlith y rhai a wnaethant hyny yr oedd yr enwog John Howe. Yr oedd y pregethau, pa fodd bynnag, yn cynnwys syniadau tra Uchel Galvinaidd, yn terfynu yn hollol ar Antinomiaeth, ac yr oedd y Rhagymadrodd, yn enwedig, a chwanegasid gan y mab, ac nad oedd Mr. Howe, a'r lleill oeddent wedi rhoddi eu henwau i dystio am ddilysedd y pregethau, yn gwybod dim am dano, yn cynnwys yr un syniadau mewn gwedd fwy eithafol fyth, a chydâg ysbryd yn tueddu i gynnyrchu drwg deimlad rhwng brodyr. Fe barodd cyhoeddiad y fath syniadau, yn enwedig fel yr ymddangosai i'r cyffredin dan nawdd rhai fel Howe, flinder mawr i lawer, gan eu bod yn gweled fod lliaws mawr yn cymmeryd yn ganiatäol fod y papurun, a arwyddesid ganddo ef, yn cynnwys hefyd gymmeradwyaeth o'r athrawiaeth a ddysgid yn y pregethau. Fe gyhoeddodd Mr. Flavel lyfr o'r enw, "A Blow at the Root; or, the Causes and Cure of Mental Errors (Works, 8vo., Vol. III., pages 413—591, London, 1820). Yn y llyfr hwn, y mae yn ymosod mewn modd galluog yn erbyn rhai o'r syniadau a daenid yn mhregethau a thraethodau Dr. Crisp, yn gystal a rhai ysgrifenwyr Antinomaidd ereill. Fe ysgrifenodd Mr. Howe, a chwech o weinidogion ereill, Ragymadrodd i'r llyfr hwn hefyd o eiddo Mr. Flavel, yn yr hwn y rhoddir adroddiad am y modd yr oedd yr hysbysiad yn nghylch pregethau Crisp wedi ei amcanu, ac y gwrthdystir yn bendant, yn erbyn rhai golygiadau a ddysgir ynddynt. Ond yr oedd y gwrthdystiad hwn yn dyfod braidd yn ddiweddar: yr oedd