Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/382

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr amryfusedd eisoes wedi ei wneuthur, ac yr oedd pleidwyr Dr. Crisp yn cymmeryd mantais arno i daenu y llyfr ac i ledaenu eu hegwyddorion, mewn cylchoedd ag na buasai nemawr neu ddim gobaith iddynt eu cyrhaedd hebddo. Yn yr amgylchiad hwn, fe ddaeth Mr. Williams, wedi hyny Dr. Daniel Williams, yr hwn oedd yn weinidog ar eglwys liosog a pharchus, a ymgynnullai yn Hand Alley, Bishopsgate, Llundain, allan yn rymus yn erbyn golygiadau Crisp. Yr oedd Mr. Williams, ar farwolaeth Mr. Baxter, yn y flwyddyn 1691, wedi ei ethol yn un o'r pregethwyr yn y Ddarlith wythnosol, bob dydd Mawrth, yn mhlith yr Annghydffurfwyr yn Pinner's Hall,—Darlith oedd y pryd hyny yn dra phoblogaidd, ac yr ystyrid yn anrhydedd mawr cael bod yn un o'r pregethwyr cysylltiedig â hi. Yn lled fuan wedi ei ethol fe draddododd bregeth alluog yn erbyn golygiadau Crisp, yr hon a barodd gyffro mawr yn mhlith y rhai a gofleidient y golygiadau hyny. Yn mhen ychydig amser fe gyhoeddodd ei lyfr,—" Gospel Truth Stated and Vindicated, wherein some of Dr. Crisp's opinions are considered, London, 1692," gyda llythyr o gymmeradwyaeth wedi ei arwyddo gan Dr. Bates, Mr. Howe, Mr. Alsop, Mr. Showers, ac amryw ereill o'r annghydffurfwyr enwocaf yn Llundain, ond yn benaf o'r rhai a elwid y pryd hyny yn Henaduriaethwyr. O flaen yr ail argraffiad yr oedd yr un cymmeradwyaeth, a nifer yr enwau wedi eu dyblu. Daeth trydydd argraffiad allan, gydâg attodiad helaeth, a nifer ychwanegol o weinidogion yn ei gymmeradwyo. Ond fe ddaeth amryw, yn enwedig o blith y rhai a ystyrid yn perthyn yn neillduol i'r Annibynwyr, allan yn ei erbyn, ac yn arbenig Mr. Isaac Chauncy, yn ei "Neonomianism Unmasked," London, 1692; Part II., London, 1693; Part III., 1693.' Y mae Chauncy, yn y llyfrau hyn, yn ysgrifenu yn dra galluog, ond yn cymmeryd tir eithafol a chyfyng y Galviniaeth uchaf, neu yn hytrach Antinomiaeth, ac yn defnyddio lliaws o ymadroddion nid yn unig ag y gellid tynu cam—gasgliadau oddiwrthynt, ond yn tueddu yn naturiol i arwain dynion i "droi gras ein Duw ni i drythyllwch." Fe gyhoeddodd Mr. Williams atebiad galluogi Chauncy, yn ei—"Defence of Gospel Truth; in reply to Mr. Chauncy," London, 1693, a ystyrid gan bleidwyr Mr. Williams yn ddigon i benderfynu y ddadl. Fe'i hatebwyd, pa fodd bynnag, gan Mr. Chauncy, yn ei—"Rejoynder to Mr. Daniel Williams his Reply to the First Part of Neonomianism Unmaskt," London, 1693. Yr oedd y ddadl erbyn hyn yn cynhyrfu yr holl eglwysi Annghydffurfiol,