Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/383

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid yn unig yn Llundain ond trwy y wlad yn gyffredin; yr Henaduriaethwyr yn cymmeryd plaid Williams, a'r Annibynnwyr, gan mwyaf, yn mhlaid Chauncy. Bu yn gymmaint cynhwrf fel y trowyd Mr. Williams allan o'i swydd fel un o'r pregethwyr yn Pinner's Hall Lecture. Parodd hyny i Dr. Bates, Mr. Howe, a Mr. Alsop, dori eu cysylltiad â Pinner's Hall, a chydâ Mr. Williams, hwy a osodasant i fynu Ddarlith wythnosol arall, bob dydd Mercher, yn Salters' Hall. Achlysurwyd llawer o deimladau annghysurus rhwng brodyr oeddent o'r blaen yn gyfeillion tra mynwesol, ac y mae yn ddiammheuol fod crefydd ysbrydol, trwy yr ymrysonau hyn, wedi cael llawer iawn o niwed. Appeliwyd gan ryw rai o honynt at Dduwinyddion ereill, yn y deyrnas hon ac ar y Cyfandir, am eu golygiadau ar y pynciau mewn dadl; at yr esgob Stillingfleet, at Dr. Jonathan Edwards, Llywydd Jesus College, Oxford, ac, yn enwedig, at Dr. Witsius, yr hwn oedd y pryd hyny yn weinidog yn Utrecht ac yn Athraw Duwinyddiaeth yn y Brifathrofa yno. Mewn canlyniad i'r cais hwn, fe ysgrifenodd Witsius ei "Animadversiones irenicae, ad controversias, quae sub infaustis Antinomorum et Neonomorum nominibus, in Britannia nunc agitantur (Miscellaneorum Sacrorum libri, Vol. II., pages 591—664. Ludg, Bat. 1736). Cyhoeddwyd cyfieithiad o eiddo Mr. Thomas Bell, o hwn i'r Saesonaeg, gyda Nodiadau rhagorol, yn Glasgow, yn y flwyddyn 1807, Conciliatory, or Irenical Animadversions on the Controversies agitated in Britain, under the Unhappy Names of Antinomians and Neonomians," Y mae Witsius, yn y llyfr hwn, yn adolygu y ddadl mewn modd teg a manwl, a thra y mae mewn rhyw bethau yn cymmeryd tir llawer uwch, a'r hyn a alwai rhai yn fwy Calvinaidd, na Mr. Williams, y mae, o'r tu arall, yn amlwg yn cydymdeimlo llawer iawn mwy âg ef nag â'i wrthwynebwyr, ac yn enwedig yn llawer iawn mwy cymhedrol na Chauncy. Yn raddol, er fod yr amrywiaeth golygiadau yn parhau, fe dawelodd y dadleuon, ac fe ddaeth y naill blaid a'r llall i deimlo nad oedd y gwahaniaeth rhyngddynt yn gyfryw ag i'w rhwystro i gydweithredu yn gyfeillgar â'u gilydd, gan oddef eu gilydd mewn cariad. Y golygiad manylaf, er hyny, ar Brynedigaeth a dderbynid yn fwyaf cyffredin yn yr eglwysi cynnulleidfaol yn Lloegr hyd ddechreuad y ganrif bresennol. Er amser Dr. Edward Williams, Rotherham, pa fodd bynnag, y mae y golygiad arall wedi enill tir yn ddirfawr yn eu mysg. Yn ol Dr. Williams, y mae yr Iawn yn gyffredinol, a'r Prynedigaeth