Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/384

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn neillduol; y naill yn golygu y pris haeddiannol, a'r llall y waredigaeth weithredol trwyddo. Yr oedd Iesu Grist yn bridwerth dros bawb, i'r fath raddau ag i symmud ymaith bob rhwystr o du y Llywodraethwr mawr i gadw pawb yn ddiwahaniaeth, yn ngwyneb derbyniad ffydd o hono ganddynt hwy yn bersonol i hyny: tra, ar yr un pryd, yr ydoedd, yn ei farwolaeth yn sefyll mewn perthynas gyfammodol â'i bobl, megis eu Meichnïydd, y fath berthynas ag oedd yn sicrhau cymhwysiad o'i haeddiant yn eu plaid hwy yn neillduol er eu hiachawdwriaeth a'u bywyd tragywyddol. Yr oedd yr Iawn yn cael ei gyflwyno i'r Duw mawr yn ei gymeriad o Lywodraethwr moesol, ac yn y berthynas hono âg ef, y mae yn gyffredinol a thra y mae y drefn i gyd wedi gwreiddio mewn gras, y mae y Prynedigaeth yn arbenig yn deillio oddiwrtho fel Penarglwydd grasol, ac, yn y berthynas hono âg ef, yn neillduol i'r eglwys. Yr un modd, yn ei berthynas â Christ fel Cyfryngwr, y mae yr lawn yn gyffredinol; ond, yn ei berthynas ag ef fel Meichnïydd dros ei bobl, y mae y Prynedigaeth yn neillduol. Ac yma nis gallwn lai na sylwi fod cam dirfawr wedi cael ei wneuthur yn fynych â Dr. Williams, trwy ei restru gydag ysgrifenwyr diweddarach sydd naill ai yn gwadu ai yn gadael allan o'u hathrawiaeth y gwirionedd mawr am Fechnïaeth Crist. Mae lle arbenig ganddo ef i hyny yn gymmaint felly, fel mai yr anhawsder mawr cysylltiedig â'i Gyfundraeth yn hyn ydyw, y modd i gysoni y cyffredinolrwydd y dadleua drosto a berthyn i'r Iawn, gyda'r Neillduolrwydd sydd yn angenrheidiol yn gorwedd yn y Feichnïaeth, ac, yn ganlynol, yn y Prynedigaeth. Er ys rhai blynyddoedd bellach, y mae yr elfen Feichnïol, y rhoddir y fath arbenigrwydd arni ganddo ef, yn cael ei gwrthod gan y nifer amlaf o'r Annibynwyr Seisonig; ac, erbyn hyn, yr ydym yn ofni fod eryn nifer yn eu mysg, fel lliaws mawr yn yr Eglwys Sefydledig, yn tueddu i wadu yn gwbl natur iawnol aberth Crist, yn yr ystyr y dysgid ef gan eu tadau; gan ei ystyried yn unig yn amlygiad o gariad dwyfol, ond nid mewn un modd yn foddlonrwydd i gyfiawnder dwyfol.

Y mae yr un pwnc wedi bod hefyd yn destyn llawer iawn o ddadleu yn mhlith y Bedyddwyr yn Lloegr. Yr oeddent hwy yn gyffredin, oddieithr y rhai sydd yn adnabyddus fel Bedyddwyr Arminaidd, yn arfer cymeryd yr olwg fanylaf a chyfyngaf arno. Dyna yn enwedig y golygiad a gymmerid gan Dr. Gill, a Mr. John Brine, y rhai a ystyrid fel y Duwinyddion galluocaf a mwyaf dylanwadol yn eu mysg, yn