Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/385

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nghanol y ganrif ddiweddaf. Nid oeddent hwy yn caniatau fod yr efengyl yn newyddion da" i bechaduriaid, fel y cyfryw, na bod dim a wnelo hi, yn uniongyrchol, ond â phechaduriaid wedi eu dwyn i deimlo yr angen am dani. Yr oeddent yn gwadu fod cynnygiad o iachawdwriaeth yn yr efengyl i neb, hyd yn nod i'r etholedigion; mai y cwbl sydd ynddi ydyw datguddiad a chyhoeddiad o honi, a bod y cyhoeddiad hwnw yn unig er mwyn yr etholedigion; mai iachawdwriaeth iddynt hwy ydyw; hwynthwy a ddewiswyd gan yr Arglwydd iddi, iddynt hwy yr ennillwyd hi gan Grist, ac atynt hwy y mae yr Ysbryd Glân yn ei chymhwyso; ac na bydd y rhai a fyddant golledig yn y diwedd, ar ol clywed y cyhoeddiad hwn, yn cael eu condemnio am beidio a chredu yn Nghrist yn ysbrydol a chadwedigol. Dyna eiriau Dr. Gill ei hunan (An Answer to the Birmingham Dialogue writer: Collection of Sermons and Tracts, Vol. II., pp. 119. 145, 147, London, 1773); ac y mae ganddo, yma a thraw trwy ei ysgrifeniadau, lawer o ymadroddion i'r un ystyr: a dyma yr athrawiaeth a dderbynid yn gyffredin yn eglwysi y Bedyddwyr yn Lloegr yn yr oes hono. Yn wir yr oedd eu syniadau o nodwedd mor eithafol, fel y mae Mr. Fuller, mewn llythyr at gyfaill iddo yn dywedyd,—" Pan y cyhoeddais i gyntaf fy nhraethawd ar natur ffydd, a dyledswydd pawb a glywant yr efengyl i'w chredu, yr oedd y broffes Gristionogol wedi suddo i ddirmyg yn ein mysg; yn gymmaint, fel pe buasai pethau yn myned rhagddynt yr un modd ond am ychydig flynyddoedd yn hwy, y buasai y Bedyddwyr wedi dyfod yn dommen berffaith mewn cymdeithas (Memoirs of the Life and Writings of the Rev. Andrew Fuller, by J. W. Morris, page 215, new edition, London, 1826). Ond tua y flwyddyn 1776, yn lled fuan wedi i Mr. Fuller gael ei neillduo i'r weinidogaeth yn Soham, fe ddechreuodd cyfnewidiad gymmeryd lle yn ei syniadau ef, ac amryw weinidogion ieuainc fel yntau, yn enwedig Mr. John Sutcliff, oedd yn weinidog yn Olney, a Mr. John Ryland o Northampton, wedi hyny, Dr. Ryland o Fristol. Y mae y cyfnewidiad hwn i'w weled yn amlwg yn Mr. Robert Hall, tad y mab enwocach o'r un enw. Mewn cylch-lythyr Cymanfa, ar Brynedigaeth Neillduol, a ysgrifenwyd ganddo ef yn y flwyddyn 1772, y mae yn cymmeryd yr ochr gyfyngaf i'r pwnc, ac yn dysgu fod Iesu Grist wedi dioddef yn ol rhif a natur y pechodau oeddent gyfrifedig arno (Complete Works, page 306, London, 1828): ond yn ei "Help to Zion's Travellers," a bregethwyd ganddo yn gyntaf mewn Cymmanfa