Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/386

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Northampton, yn y flwyddyn 1779, ac a gyhoeddwyd ganddo yn fuan ar gais unfrydol a thaer y Gymmanfa, tra eto yn dal at Brynedigaeth Neillduol, y mae yn cymmeryd tir rhydd, iachusol, Cymmanfa Dort a Duwinyddion Puritanaidd Lloegr, ae yn gosod gwerth ac effeithiolrwydd yr aberth i orwedd ar fawredd anfeidrol y person a'i hoffrymodd ei hun. Ac mewn Cylch-lythyr Cymmanfa ar Dduwdod Crist ac Effeithiolrwydd ei Iawn, a ysgrifenwyd ganddo yn y flwyddyn 1788, y mae y cyfnewidiad yn fwy amlwg fyth. Ond mewn llyfr a gyhoeddwyd gan Mr. Fuller ei hunan, yn y flwyddyn 1785,—"The Gospel worthy of all Acceptation, or the Duty of Sinners to believe in Jesus Christ," yr ymosodwyd gyntaf yn uniongyrchol ac yn benderfynol yn erbyn y syniadau Uchel—Galvinaidd ac Antinomaidd a ffynent yn gyffredin y pryd hyny yn mhlith y Bedyddwyr. Yn wir, wrth sylwi ar nodwedd ysgrythyrol a thôn efengylaidd y llyfr hwn, y mae yn ymddangos braidd yn anhygoel ei fod wedi bod yn achlysur y fath gynhwrf. Ei amcan yn y llyfr ydyw profi rhwymedigaeth dynion i gredu pa beth bynnag y mae Duw yn dystiolaethu, ac i ufuddhau i ba beth bynnag y mae yn orchymyn; ac felly bod y ddeddf foesol yn rhwymo pawb y cyhoeddir yr efengyl iddynt i ffydd yn Nghrist, yn gymmaint a'i bod yn gofyn ufudd—dod i bob datguddiad a rodder gan Dduw o'i ewyllys. Wrth draethu ar hyn y mae yn dangos fod anallu dyn i gydymffurfiad âg ewyllys Duw yn mhob peth, ac felly gyda golwg ar ffydd, yn hollol o natur foesol, ac yn cyfodi yn unig oddiar ansawdd lygredig ei galon a'i elyniaeth yn erbyn Duw, ac nid oddiar ddiffyg y cynneddfau neu y galluoedd naturiol angenrheidiol i hyny; ac, felly, yn lle ei fod yn esgusodi dyn am ei annghrediniaeth a'i anufudddod, ac yn ei ryddhau oddiwrth ei rwymedigaeth, ei fod mewn gwirionedd yn gwneuthur ei ymddygiad yn fwy ysgeler ac yn ychwanegu at ei euogrwydd. Wedi profi rhwymedigaeth pawb a glywont yr Efengyl, neu a gaffont y cyfleusdra i'w chlywed, i'w chredu, y mae yn myned rhagddo i ateb y gwrthddadleuon a wneid yn erbyn yr hyn a amddiffynai—gwrthddadleuon yn cyfodi oddiwrth natur sancteiddrwydd gwreiddiol y ddynoliaeth—arfaeth ac etholedigaeth gras—prynedigaeth neillduol—y cyfammod gweithredoedd—anallu dyn gweithrediadau yr Ysbryd—a'r angenrheidrwydd am egwyddor sanctaidd mewn trefn i gredu yn Nghrist—ac y mae yn dadleu yn alluog dros gysondeb galwad gyffredinol yr efengyl a dyledswydd pawb i'w chredu,