Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/387

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r golygiad ysgrythyrol cywir, yn ei fryd ef, ar yr holl bethau hyn. Wrth ateb yr wrthddadl a gyfodid oddiwrth Neillduolrwydd y Prynedigaeth, y mae yn ymofyn yn mha beth y mae y neillduolrwydd hwnw yn gynnwysedig. Ac yma y mae yr hyn sydd yn hynodi ei ddysgeidiaeth ef ar y pwnc, yn dyfod i'r golwg. "Pe buasai iawn Crist," meddai, "i'w ystyried fel taliad llythyrenol dyled—pe buasai ei ddioddefiadau of i'w mesur yn ol nifer y rhai y bu farw drostynt, ac yn ol gradd eu heuogrwydd, yn y fath fodd fel pe buasai mwy i'w cadw, neu y rhai a gedwir yn fwy euog, y buasai ei ofidiau yntau yn cynnyddu yn gyfatebol—buasai, am a wn i, yn annghyson â gwahoddiadau cyffredinol. Ond buasai yr un mor annghyson â maddeuant rhad, ac ag annog dynion i ymofyn am drugaredd megis rhai yn ymbil am dani, yn hytrach nag fel rhai yn honi hawl iddi. Yr ydwyf, gan hyny, yn casglu nas gall tybiaeth sydd mewn cynnifer o bethau mor bwysig yn eglur yn annghyson â'r Ysgrythyrau fod yn wirionedd. Ar y llaw arall, os nad yw iawn Crist i'w olygu wedi ei gyflwyno ar egwyddor cyfiawnder masnachol, ond moesol, neu gyfiawnder fel y mae yn dal perthynas â throsedd—os ei amcan arbenig oedd arddangos yr anfoddlonrwydd dwyfol yn erbyn pechod, (Rhuf. viii. 3.) ac felly peri i weinyddiad trugaredd, yn mhob modd ag y penderfyno doethineb penarglwyddiaethol ei chymhwyso, fod yn gyson â chyfiawnder (Rhuf. iii. 25.)—os ydyw ynddo ei hunan yn ddigonol er iachawdwriaeth yr holl fyd, pe byddai i'r holl fyd ei gofleidio—ac os ydyw y neillduolrwydd a berthyn iddo yn gynnwysedig nid yn ei annigonolrwydd i gadw mwy nag a gedwir, ond yn y penarglwyddiaeth o berthynas i'w gymhwysiad —nis gellir yn gyfiawn briodoli y fath annghysondeb iddo. . . . . Nid oes dim gwrthwynebiad rhwng y neillduolrwydd hwn yn marwolaeth Crist, a rhwymedigaeth gyffredinol ar bawb sydd yn clywed yr efengyl i gredu ynddo, neu â bod gwahoddiad cyffredinol yn cael ei roddi iddynt. . . . . . Pe buasai pechaduriaid yn cael eu galw i gredu fod bwriad neillduol gan Grist i'w cadw hwy, yna fe fuasai yn annghyson ond nid ydynt yn cael eu hannog na'u gwahodd i gredu dim ond sydd wedi ei ddatguddio, a'r hyn a brawf yn wirionedd, pa un bynnag a gredant hwy ai peidio" (Complete Works, Vol. II.; pages 65, 66, London, 1831). Y mae Mr. Fuller, mewn amryw o'i ysgrifeniadau dilynol, wedi traethu ei olygiadau yn fwy helaeth ac yn fwy manwl ar y pwnc hwn, ond y mae hanfod ei athrawiaeth ef arno yn y