Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/388

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyfyniadau a wnaed genym. Yn ol Mr. Fuller, gan hyny, y mae y fath gyffredinolrwydd yn yr Iawn ynddo ei hunan, yn cyfodi oddiar ei ddigonolrwydd anfeidrol, ag y gellir dywedyd ei fod dros bechaduriaid, fel y cyfryw, ac yn ddiwahaniaeth; tra y mae "Neillduolrwydd y Prynedigaeth yn gynnwysedig yn ewyllys benarglwyddiaethol Duw gyda golwg ar gymhwysiad yr Iawn; hyny yw, gyda golwg ar y personau y cymhwysir ef atynt" (Conversations, &c.; Works, Vol. II., pp. 516, 520). Fel y dywedasom eisoes, fe achlysurodd llyfr cyntaf Mr. Fuller ar y pwnc hwn ddadleuon dirfawr. Ymosodwyd arno gan yr Arminiaid, ar y naill law, trwy Mr. Daniel Taylor, gweinidog cyfrifol gyda'r Bedyddwyr Arminaidd, yr hwn a ysgrifenai yn gyntaf dan y y ffugenw "Philanthropos," ond a ddaeth allan wedi hyny yn ei enw ei hun; ac, ar y llaw arall, gan yr Uchel-Galviniaid, trwy liaws o fanysgrifenwyr, ond, yn benaf, trwy Mr. William Button, oedd yn weinidog yn Llundain, yn yr un eglwys ag y buasai Dr. Gill yn weinidog; a thrwy Mr. John Martin, gweinidog arall gyda'r Bedyddwyr yn Llundain. Cyhoeddodd Mr. Archibald M'Lean hefyd, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Edinburgh, mewn ail-argraffiad o'i lyfr,—"The Commission given by Jesus Christ to his Apostles" (Works, Vol. II., pp. 74—76, 82, octavo edition, London, 1823), rai Nodiadau ar olygiadau Mr. Fuller ar Natur Ffydd, a arweiniasant i ddadl âg yntau. Ond y ddadl fawr ar Brynedigaeth, a'r fwyaf poenus o'r cwbl i deimladau Mr. Fuller, oblegyd y parch mawr a goleddai tuag at ei wrthwynebwr, a'r safle uchel oedd iddo yn y Cyfundeb yr oedd y naill a'r llall yn perthynu iddo, oedd ei ddadl â Mr. Abraham Booth. Yr oedd Mr. Booth, fel yn wir yr oedd Mr. M'Lean, yn eithaf pell oddiwrth syniadau eithafol ac Antinomaidd rhai o wrthwynebwyr ereill Mr. Fuller, ac yn ŵr o allu a dylanwad mawr, yn mhell tu hwnt i derfynau ei enwad ei hun; ond yr oedd yn gryf dros derfynolrwydd gosodiad yr iawn dros yr etholedigion yn unig, tra yn addef ei ddigonolrwydd anfeidrol ynddo ei hun, galwad gyffredinol yr efengyl ar bechaduriaid yn ddiwahaniaeth at Grist, a'u rhwymedigaeth bersonol i gredu ynddo am iachawdwriaeth. Ar ryw ystyr, fe allesid meddwl nad oedd y gwahaniaeth rhwng Mr. Fuller ac yntau ond bychan iawn, prin yn werth dadleu llawer yn ei gylch pa fodd bynnag, fe barhäodd y ddadl rhyngddynt, yn y naill ffurf neu y llall, am flynyddoedd; a gwaeth na hyny, "fe fu cymmaint cynhwrf rhyngddynt," fel y torodd Mr. Booth bob cyfeillach â Mr.