Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor fynych, yn y naill wedd neu arall, mewn blynyddoedd diweddarach, ger bron Cymru yn ei weinidogaeth gyhoeddus, â'r rhai y gwyddom oeddent yn cael lle mor fawr yn ei fyfyrdodau cyffredin. Yr oedd wedi cael prawf mor amlwg ac mor agos ato o werth crefydd i'w pherchen erbyn cyfarfod angau ac i wynebu y byd tragwyddol fel y daeth ei meddiannu iddo ei hunan yn beth pwysig iawn ar ei feddwl, a deallwyd ei fod yn treulio llawer o amser y pryd hwn i weddio wrtho ei hunan mewn lleoedd dirgel. Ymroddai hefyd yn awr yn fwy nag erioed at y gorchwyl o bregethu a chyda mwy o ddifrifoldeb. Nid oedd odid ddiwrnod yn myned heibio na byddai yn rhoddi pregeth i blant y gymmydogaeth, nac un noswaith na byddai ei frodyr a'i chwïorydd yn cael un ganddo yn y gwely. Y gwirioneddau, bellach, a bregethai braidd bob amser oeddent y rhai am fyd tragywyddol–barn trueni yr annuwiol–dedwyddwch y duwiol–y pwys o gael yr achos mawr yn dda cyn marw–a thestynau cyffelyb. Yr oedd yn awr yn ymroddi cymaint i hyn fel yr aeth ei fam i'r un brofedigaeth ag y buasai ei dad ynddi, rai blynyddoedd cyn hyny, o'i blegyd. Yr oedd yn ofni yn fawr ei fod yn gwneuthur yn rhy hŷf ar bethau cysegredig, ac yn ammheus ai ni ddylasai arfer ei hawdurdod i'w attal yn hollol Yn ei chyfyngder aeth at ei brawd–yn–nghyfraith, y Parch. John Williams, i adrodd y trallod yr oedd ei meddwl ynddo, ac i ymgynghori âg ef beth oedd oreu iddi i'w wneuthur. Cynghorwyd hi ganddo i beidio a chymeryd y peth yn ormod at ei meddwl, ac i beidio yn neillduol a'i attal, ond i barhau i'w addysgu yn mhethau crefydd, a gweddïo llawer iawn drosto:–"fe allai," meddai, "fod a fyno yr Arglwydd a gwneyd rhyw ddefnydd mawr o'r bachgen." Daeth ei fam, mewn canlyniad i'r ymddyddan hwn, yn fwy tawel, ac ymroddodd i daerni mwy nag erioed mewn gweddiau at Dduw ar ei ran. Parhaodd yntau, hyd onid oedd tua deuddeng mlwydd oed, â'i feddwl fel wedi ei lyngcu i fynu gan bethau crefydd, ac i ymbleseru yn benaf dim yn eu cymhell, ar ddull pregethu, ar feddyliau y plant a gaffai i wrandaw arno, neu yn yr un ffurf, yn fynych wrtho ei hunan pan nas gwyddai fod neb yn ei glywed. Nid ydym yn myned i gymmeryd arnom geisio penderfynu i ba raddau yr oedd ei feddwl ar y pryd dan ddylanwad y pethau pwysig a draddodid ganddo, neu pa mor bell y gellir priodoli y cwbl i'r hyn a geir yn gyffredin mewn plant, eu tuedd, yn unig er mwyn difyrwch, i efelychu, yn ol y gallu a fyddo