Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/390

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddoeth iddo gasglu ynnghyd, cyn y Gymmanfa, yr hyn a gyhoeddasid ganddo ef ar y pwnc hwn, a phynciau ereill cysylltiedig, yn yr amrywiol ysgrifeniadau a gyhoeddasai yn flaenorol; yr hyn a wnaeth, mewn llyfryn bychan,—Opinions on Faith, Divine Influence, Human Inability, the Design and Efficacy of the Death of Christ, and the Sonship of Christ. Pan y daeth yr achos ger bron y Gymmanfa yn Glasgow, yn mis Mehefin, yr oedd Mr. Morison yn cael ei gyhuddo o lawer o gyfeiliornadau tra gwahanol i'r hyn oedd adnabyddus fel golygiadau y ddau Athraw yr oedd yn haeru nad oedd yr iawn yn sicrhau cadwedigaeth neb; yn dal fod etholedigaeth, yn y drefn ddwyfol, yn ddilynol i'r iawn; mai gwrthddrych ffydd gadwedigol, neu yr hyn y gelwir ar ddyn i'w gredu, ydyw, fod Crist wedi gwneyd iawn drosto ef yn bersonol fel ag y mae wedi gwneyd iawn dros bechodau yr holl fyd, a bod derbyn hyny fel gwirionedd yn ffydd gadwedigol, ac yn rhoddi sicrwydd o iachawdwriaeth; a llawer o bethau cyffelyb. Yr oedd y ddadl, meddir, a gymmerodd le yn y Gymmanfa, yn nodedig o alluog; Mr. Morison yn ei amddiffyn ei hunan yn fedrus dros ben, a'i wrthwynebwyr yn ei ateb gyda nerth mawr. Yr oedd Dr. Brown, er yn annghymmeradwyo ei syniadau yn ddirfawr, eto am ymddwyn yn dyner tuag ato. Ond, ar gynnygiad Dr. Heugh, fe benderfynwyd cadarnhau yr hyn a wnelsid gan Henaduriaeth Kilmarnock, ac fe'i diarddelwyd o'r Eglwys Unedig. Gwrthdystiodd Dr. Brown, yn y drefn arferol yn yr Eglwys hono, yn erbyn y ddedfryd, er y daeth cyn hir i gydnabod nad oedd dim arall a allesid wneyd. Profodd Mr. Morison ei hunan yn fuan yn hollol groes i Galviniaeth yn mhob ffurf; a daeth yn sylfaenydd enwad newydd, yn nghymmydogaethau Glasgow, sydd yn dal athrawiaethau cyffredin Arminiaeth. Mae yn wr dysgedig iawn; wedi ei raddio yn D.D. ers rhai blynyddoedd; ac yn adnabyddus fel awdwr dwy o gyfrolau mawrion a galluog, ar y drydedd a'r nawfed bennod o'r Epistol at y Rhufeiniaid. Yn yr un Gymmanfa ag y diarddelwyd ef, yr oedd gweinidog arall hefyd ar ei brawf, Mr. Walker o Comrie. Yr oedd yntau wedi ei attal, gan Henaduriaeth Perth, am ddal Iawn cyffredinol, ac fel Mr. Morison wedi appelio at y Gymmanfa. Ond fe allodd ê brofi, i foddlonrwydd y Gymmanfa, nad oedd yn dal dim oedd gyfeiliornus: ac fe gytunodd â'r gosodiad a gyflwynasid iddo ganddi,—fod yr Iawn yn diogelu yn anffaeledig gadwedigaeth yr etholedigion, oblegyd y berthynas neillduol oedd rhyngddo â hwynt; ac eto fod drws o obaith