Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/391

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi ei agoryd trwyddo i ddynolryw fel pechaduriaid, a'r fath berthynas rhwng angeu Crist a phawb â bod i bawb ryddid a chroesaw i ddyfod at Dduw trwyddo;—ac felly fe'i hadferwyd i'w swydd ac i'w le.

Fe ymddangosai y Gymmanfa hono yn terfynu mewn cymmeradwyaeth hollol o'r hyn oedd adnabyddus fel golygiadau Dr. Brown a Dr. Balmer: Ond, ryw fodd, yr oedd y blaid a ddangosasid gan Dr. Brown i Mr. Morison, ac yn enwedig ei wrthdystiad yn erbyn gweithred y Gymmanfa yn ei ddiarddel, wedi creu ammheuaeth yn meddyliau llawer nad oedd yntau ei hunan yn gwbl iach yn y ffydd; ac yr oedd cyffro mawr trwy yr holl wlad, a lliaws yn dra anfoddlawn ac anesmwyth. Yr oedd Dr. Marshall o Kirkintilloch wedi cymmeryd rhan arbenig yn y Gymmanfa yn erbyn Mr. Morison, ac yn enwedig yn erbyn y syniad am Iawn cyffredinol: ond cyn y Gymmanfa ganlynol yn 1842, fe gyhoeddodd lyfr,—" The Death of Christ the Redemption of his people: or the Atonement regulated by the Divine Purpose,"—yn yr hwn, tra yn dadleu yn gryf dros neillduolrwydd y Prynedigaeth, a pherthynas y Gwaredwr yn ei farwolaeth â'r etholedigion, fel eu Bugail, fel eu Priod, fel eu Meichnïydd, ac fel eu Dirprwy, y mae, er hyny, yn caniatau "ei fod wedi marw dros bawb, dros bechaduriaid yn gyffredin, —er nad gyda'r amcan i gadw pawb. Bu farw yn eu natur, bu farw yn eu lle; bu farw i anrhydeddu y gyfraith a dorasid ganddynt hwy, boddloni y cyfiawnder oeddent hwy wedi ddigio, dwyn y felldith yr oeddent hwy yn ddarostyngedig iddi, dioddef y farwolaeth yr oeddent hwy wedi eu dedfrydu iddi. Mewn geiriau ereill bu farw, i symmud ymaith bob rhwystr cyfreithiol a orweddai yn eu ffordd i gyrhaedd bywyd, gan wneuthur eu cyfiawnhau a'u hachub, ond yn unig iddynt gredu, yn gyson â sancteiddrwydd a chyfiawnder y Goruchaf, â diogelwch ei lywodraeth, ac â hawliau ei gyfraith. Ie, mwy, bu farw gyda'r bwriad i ddwyn ei iachawdwriaeth yn agos at bawb, i gyhoeddi y newyddion da o lawenydd mawr i lwythau, a chenedloedd, a phobloedd, ac ieithoedd, gan erfyn arnynt yn ymysgaroedd trugaredd ddyfod i gymmod â Duw, gosod ger eu bron einioes ac angeu, y fendith a'r felldith, er nad oedd yn penderfynu rhoddi iddynt y gras hwnw, fel nad oedd arno rwymau i'w roddi, a allai eu tueddu hwy i ddewis einioes yn hytrach nag angeu. Yn y modd hwn, yr wyf fi yn golygu, ddarfod i'r Iesu bendigedig farw dros bawb, ac nid hyny yn unig, yn y modd hwn, yr wyf fi yn golygu iddo ymgyfammodi i farw dros bawb, canys nid oedd