Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/392

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hyn a wnaeth yn nghyflawnder yr amser ond yn unig dadblygiad o'r hyn a fwriadasai ac yr ymrwymasai ei wneuthur cyn bod y byd ' (pages 70, 71). Y mae yma hefyd mewn Nodiad yn dyfynu o Dr. Payne, gyda chymmeradwyaeth, yr hyn a ganlyn:—"Ar y naill law, ni bu farw yn y fath fodd dros neb, ag y cedwir hwynt heb edifeirwch a ffydd; ac, ar y llaw arall, bu farw yn y fath fodd dros bawb, ag y cedwir pawb ar eu ffydd a'u hedifeirwch." Cyn diwedd y llyfr, y mae yn dywedyd fel hyn:—"Amcan arall, a mwy pwysig fyth, i'r tudalenau blaenorol, ydyw cyfarfod yr wrthddadl adnabyddus a dynir oddiwrth alwadau cyffredinol yr efengyl, a'u cymmeryd mewn cysylltiad â'r hyn a elwir yn iawn terfynol. Pa mor bell y llwyddais yn hyn rhaid i ereill farnu. Nid wyf fi wedi chwilio am yr eglurhad ar yr anhawsder, fel y gwneir yn gyffredin, yn nigonolrwydd yr Iawn. Yr wyf fi bob amser wedi meddwl nad ydyw digonolrwydd yn unig, pa mor ogoneddus bynnag, pa mor anfeidrol bynnag, mewn gwirionedd yn sail gyfatebol i alwad gyffredinol orphwys arni. Yn hyn yr wyf mor bell yn cytuno â'r brodyr wyf yn wrthwynebu; ond yr hyn nas gallaf ei gael yn nigonolrwydd yr Iawn, vr ydwyf yn ei gael yn y ffaith o'i fod yn feddyginiaeth gyffredinol. Mewn rhyw ystyr yr ydoedd yn iawn dros bawb. Mewn rhyw ystyr yr oedd y Gwaredwr yn sefyll yn lle pawb. Yr oedd yr hyn oedd yn agor drws trugaredd i un, yn ei agoryd i bob un" (pages 203, 204). A chyn terfynu y mae yn datgan ei hyder yn athrawon eu Hysgol Dduwinyddol, ac yn eu rhyddhau hwy oddiwrth y cyfrifoldeb am y cynhwrf annghysurus ag oedd wedi cymmeryd lle mewn cysylltiad â rhai a fuasent dan eu gofal (page 218). Yr oedd pethau yn ymddangos yn awr fel pe na buasai dim gwahaniaeth rhwng y pleidiau, a gallesid disgwyl am dangnefedd hollol. Ond yn y gwrthwyneb y bu. Cyhoeddodd Dr. Balmer gyfran o waith Polhill ar Helaethrwydd Marwolaeth Crist, wedi ei dynu allan o'i lyfr, "The Divine will considered in its Eternal Decrees, and Holy Execution of them,"—gydâ Rhagymadrodd o'i eiddo ei hunan. Yn y Rhagymadrodd hwnw, tra nad yw yn gallu cymmeradwyo yn hollol olygiadau Polhill, y mae yn datgan ei fod yn eu hystyried o ran sylwedd yn gywir. Ac y mae yn defnyddio y cyfleusdra hwnw i draethu ei olygiadau ei hunan yn lled helaeth; a thra yn dadleu dros Iawn cyffredinol, a'r priodololdeb o'i alw felly, y mae yr un pryd yn annog i ochelgarwch wrth ddefnyddio yr ymadrodd, gan ei fod yn agored i'w gam—ddeall; ond y mae yn edrych