Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/393

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhagddo at amser, a hyny nid yn mhell, pan y gellid ei ddefnyddio yn ¿diofid i bawb. Parodd cyhoeddiad y llyfryn hwn, yn neillduol y Rhagymadrodd, ac yn arbenig y gobaith hwn a goleddid am amser y gellid defnyddio iaith mor groes i'r hyn oedd wedi bod hyd hyny yn arferedig yn eu plith, anfoddlonrwydd dirfawr i'r rhai oeddent yn dadleu dros gadw at y golygiad cyfyngaf ar yr Iawn. Penderfynasant ar unwaith fod amcan gan Dr. Balmer, gydâ'i gyd—athraw Dr. Brown, i lefeinio yr efrydwyr dan eu gofal â'u haddysg a'u syniadau eu hunain, ac felly i symmud yr hen derfyn a osodasai eu tadau. Daeth y peth dan sylw rhai brodyr yn y Gymmanfa yn mis Mai, 1843, y rhai a gyfarfuant â Dr. Balmer er mwyn cael rhyw eglurhad ganddo ar yr iaith a ddefnyddiasai. Y mae yn ymddangos na chafwyd llawer o foddlonrwydd yn yr ymddyddan hwnw; ac felly mewn cyfarfod arall o'r Gymmanfa, yn mis Hydref yr un flwyddyn, daeth cenadwri o ddwy Henaduriaeth, Paisley a Greenock, yn cyflwyno yr achos drachefn i ystyriaeth y Gymmanfa. Hydref 5, yr oedd y ddau Athraw ger bron y Gymmanfa. Siaradodd Dr. Balmer yn gyntaf am ddwy awr; ac fe'i dilynwyd gan Dr. Brown; y naill a'r llall gyda'r fath eglurder a phenderfyniad, ac eto mewn ysbryd mor dyner a Christionogol, fel yr ennillwyd yr holl Gymmanfa, heb un eithriad, i dderbyn eglurhad y naill a'r llall fel yn profi yn foddlonol nad oeddent yn gwahaniaethu mewn dim hanfodol oddiwrth eu brodyr, ac i'w rhyddhau oddiwrth bob amheuaeth am eu hiechyd yn y ffydd. Wedi derbyn hyn yn unfrydol a dieithriad, fe benderfynwyd hefyd, ond ar ol dadleu llawer ac yn ngwyneb gwrthwynebiad mawr, fod yr ymadrodd iawn terfynol" i'w wrthod, yn gystal ag iawn cyffredinol." Yr oedd heddwch yn awr yn beth ag y gallesid ei ddysgwyl. Ond "fe ddychwelodd y cymmylau ar ol y gwlaw." Cyhoeddodd yr Athrawon, trwy y Wasg, y Datganiad o'u syniadau a wnelsid ganddynt ger bron y Gymmanfa. Yr oedd llawer yn ymwrthod, wedi gweled mewn argraff, a'r hyn a gymmeradwyasid ganddynt pan yn cael ei draddodi yn eu clyw; ac yr oedd ereill yn tybied fod yr athrawon yn gwneuthur yn annheg trwy gyhoeddi eu syniadau felly, fel pe buasai y Gymmanfa wedi cymmeradwyo pob peth a draethesid ganddynt; tra nad oeddent hwy yn golygu ei bod wedi penderfynu dim ond nad oedd sylwedd eu golygiad ar yr Iawn yn annghydweddol âg athrawiaeth eu brodyr ac â Chredo eu Heglwys. Yr oedd y ddadl yn awr wedi ymestyn tu allan i gylch yr "Eglwys Unedig," yn gymmaint