Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/394

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a bod Dr. Wardlaw er ys rhai misoedd wedi cyhoeddi cyfrol,—"Discourses on the Nature and Extent of the Atonement of Christ," o'r hon erbyn hyn yr oedd ail argraffiad wedi ei ddwyn allan. Yn y gyfrol hon, y mae yn ei amddiffyn ei hunan yn ngwyneb rhyw sylwadau a wnelsid gan Dr. Marshall arno, yn y gyfrol y cyfeiriasom ati uchod, ac yn ei dro yn ymosod arno yntau, gan wneuthur cryn ddefnydd o'r wedd gyffredinol ar yr Iawn a ganiatesid gan Dr. Marshall ei hunan. Mae yn deg hefyd i ni sylwi fod Dr. Wardlaw, yn y llyfr hwn, yn cymmeryd tir hollol wahanol i amddiffyn ei olygiad ar Gyffredinolrwydd yr Iawn i'r tir a gymmerid gan Dr. Brown a Dr. Balmer. Mae efe yn dadleu, fel Arminïus, fod y bwriad i roddi yr Iawn yn flaenorol yn y meddwl dwyfol i'r bwriad i ethol: fod yr Iawn wedi ei roddi yn gyffredinol, dros bawb, ond heb fod yn perthyn yn neillduol i neb; ac yna, yn wahanol i Arminius, yn y rhagolygiad na dderbyniai neb o ddynolryw fywyd ynddo o honynt eu hunain, fod y bwriad i ethol yn dyfod i mewn er diogelu iachawdwriaeth drwyddo i ryw rai. Mae y golygiad am berthynas neillduol Crist â'r etholedigion yn ei farwolaeth, y dadleuai Dr. Brown a Dr. Balmer drosto, yn ol hyn yn cael ei golli yn gwbl. Yn nechreu y flwyddyn 1844, fe ddaeth Dr. Marshall a llyfr arall allan i wrthwynebu golygiad Dr. Wardlaw ar yr Iawn,—"The Catholic Doctrine of Redemption Vindicated;" yn yr hwn y mae yn galw yn ol y wedd gyffredinol ar yr Iawn a gyhoeddasid ganddo yn ei lyfr blaenorol ac, mewn Attodiad i'r gwaith, y mae yn gwneuthur Sylwadau llymion ar y Datganiad a gyhoeddesid gan yr Athrawon o'r hyn a draddodasid ganddynt ger bron y Gymmanfa; ac yn gwneuthur awgrymiadau bryntion ac atgas, eu bod, yn eu cymeriad fel athrawon, naill ai yn dysgu yr hyn nad oeddent yn gredu, neu yn dysgu yr hyn a wyddent oedd yn groes i Gyffes Ffydd eu Heglwys, a bod eu hathrawiaeth, mewn gwirionedd, yn diddymu hanfod yr Iawn. Yr oedd lliaws yma a thraw trwy Scotland yn cydymdeimlo âg ef, ac yr oedd llawer iawn o ysgrifenu yn y papurau newyddion, yn y cyhoeddiadau misol, ac mewn man draethodau a gyhoeddid ar wahan, ar yr achos. Yr oedd cyhuddiad Dr. Marshall yn un na allai Dr. Brown a Dr. Balmer orwedd tano. Yn ganlynol, yn y Gymmanfa a gynnaliwyd yn mis Mai, 1844, hwy a ddygasant yr achos ger bron, gan wrthdystio yn benderfynol yn erbyn y fath awgrymiadau a chyhuddiadau, a chan alw, od oedd gan ryw rai rywbeth yn eu herbyn, am gael eu profi yn rheolaidd ger bron