Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/395

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Gymmanfa, yn ol y drefn arferedig yn eu plith. Ffurfiwyd cyfeisteddfod i ystyried cyhuddiadau Dr. Marshall, ac hefyd y Datganiad a gyhoeddasid ganddynt hwythau. Tynodd Dr. Marshall ei gyhuddiadau yn ol, ac addawodd dynu yn ol yr Attodiad i'w lyfr. Tystiodd y ddau Athraw nad oeddent erioed, can belled ag yr oeddent hwy yn deall, wedi arfer nac ymadrodd na gair yn arwyddo eu cymmeradwyaeth o nac yn tueddu i gefnogi unrhyw gyfeiliornad o eiddo Pelagius; ac, yn neillduol, nad oedd yr ymadroddion a arferasid ganddynt, megis "agor drws trugaredd i bawb,"—"symmud y rhwystrau cyfreithiol ac allanol i iachawdwriaeth."—a "bod cyfeiriad cyffredinol yn gystal a neillduol i'r iawn," i'w deall ganddynt hwy fel yn arwyddo "fod yr iawn, yn ol trefn y bwriadau dwyfol, yn blaenori etholedigaeth, neu ei fod yn agor ffordd iachawdwriaeth i bawb, heb sicrhau iachawdwriaeth neb, ac yna bod cariad penarglwyddiaethol yn dyfod yn mlaen i gyflenwi y cynllun, trwy ordeinio yr etholedigion i fywyd." Felly adferwyd, dybygid, heddwch drachefn. Aeth Dr. Balmer adref o'r Gymmanfa hono i farw yn fuan; a gadawwyd Dr. Brown ei hunan i'r ymryson a ganlynodd. Ac ymryson mawr a fu. Yn lle tynu yn ol yr Attodiad yn yr hwn y dygai y fath gyhuddiadau yn erbyn y ddau Athraw, pa beth a wnaeth Dr. Marshall ond cyhoeddi llyfryn drachefn, "Remarks on the Statements of Drs. Balmer and Brown." Yn ol hwn, nid oedd eu hefengyl hwy ond "efengyl ddiwerth," na'i galwad "ond ychydig well na gwawd difrifol." Dadleuai hefyd nad oedd y rhwystrau cyfreithiol yn ffordd iachawdwriaeth pechaduriaid yn gyffredinol wedi eu symmud trwy angeu Crist, ac nad ydyw cynnygiad yr efengyl ond yn unig yn gynnygiad i bawb o iachawdwriaeth sydd yn perthyn yn unig i'r "etholedigion; a llawer o syniadau cyffelyb. Yr oedd Dr. Brown yn awr wedi penderfynu dwyn ei achos ger bron y Gymmanfa, a mynu terfyn arno, trwy naill ai cael ei gyfiawnhau neu ei gondemnio ganddi hi. Pan ddaeth y Gymmanfa yn mis Mai, 1845, fe wasgwyd ar Dr. Marshall naill ai i dynu ei gyhuddiadau yn ol, neu ynte i'w profi yn ffurfiol. Fe ddewisodd yntau, yn hytrach na'u tynu yn ol, eu profi. Yn mhen ychydig gyda dau fis, fe gyfarfu y Gymmanfa drachefn, yn nghapel Dr. Brown ei hunan. Mynai Dr. Marshall oedi y prawf hyd y flwyddyn ganlynol; ond yr oedd y mwyafrif o lawer yn gweled y byddai hyny yn annhegwch mawr a'r cyhuddedig; ac yr oedd Dr. Brown ei hunan yn gwrthod gwasanaethu fel