Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/396

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

athraw, tra yr oedd y fath gyhuddiadau yn ei erbyn heb eu profi na'u gwrthbrofi. Felly fe benderfynwyd i'r prawf fyned rhagddo ar unwaith. Ac ar y 29ain o fis Gorphenaf, fe ddechreuodd. Yr oedd teimlad annghyffredin nid yn unig yn yr eglwysi cysylltiedig â'r Gymmanfa ond trwy Scotland i gyd yn yr achos; y gwr galluocaf a pharchedicaf a dysgedicaf, a berthynai i'r Eglwys Unedig, yr hwn oedd hefyd yn Athraw Duwinyddiaeth iddi, ar brawf am gyfeiliornadau. Parhaodd y prawf bedwar diwrnod olynol, am oriau meithion bob dydd ond fe derfynodd mewn rhyddhad hollol i Dr. Brown oddiwrth y cyhuddiadau yn ei erbyn, ac mewn penderfyniad, a dderbyniwyd yn unfrydol, o ymddiried llwyraf y Gymmanfa ynddo, a chydymdeimlad âg ef yn y blinder a oddefasai.—Macgill's Life of Hugh Heugh, D.D., pages, 357, 440—446, second edition, Edinburgh, 1852; "Academical Lectures and Pulpit Discourses. By the late Robert Balmer, D.D., with a Memoir of his Life." Vol. I., pages 49—60, Edinburgh, 1845; Memoir of John Brown, D.D. By John Cairns, D.D.," pages 213—252. Edinburgh, 1860. Bu hyn yn ddiwedd hollol ar y ddadl hon yn yr United Secession Church. Y mae yn bosibl fod gradd o wahaniaeth yn parhau yn ngolygiadau gweinidogion ac aelodau yr Eglwys hono, gyda golwg ar y pwnc a fu yn destyn y fath gynhwrf yn eu plith; ond y maent yn cydymddwyn a'u gilydd, gan ystyried nad ydyw y gwahaniaeth yn cyffwrdd â dim sydd hanfodol i'r efengyl fel trefniant ar gyfer byd euog. Y mae er hyny yn cael ei gydnabod; ac nid ydyw rhai o wylwyr yr athrawiaeth, yn Eglwys Rydd Scotland, heb wneyd cryn ddefnydd o hono er ceisio rhwystro yr undeb y dyheüir am dano rhwng y ddau Gyfundeb y dyddiau hyn.

Fe fu y ddadl hon, yn dra buan wedi Cymmanfa Dort, yn achlysur cynhwrf, a barhaodd am flynyddoedd lawer, yn yr Eglwys Brotestanaidd yn Ffrainc. Yr un a ddechreuodd daenu yno egwyddorion ychydig yn wahanol i'r rhai a ddysgasid gan Beza, oedd Cameron, yr hwn oedd enedigol o Glasgow, yn Scotland, ac wedi myned trwy y cylch arferol o efrydiau yn Mhrifysgol y ddinas hono, a aeth drosodd i'r Cyfandir, ac a ddaeth yn weinidog yr Eglwys Brotestanaidd yn Bordeaux, ac a ddyrchafwyd oddiyno i fod yn Athraw Duwinyddol yn Athrofa Saumur. Yr oedd yn wr o alluoedd naturiol cryfion, yn dra dysgedig, ac, yn enwedig, yn cael ei gydnabod fel un yn meddiannu cymhwysder neillduol i egluro meddwl yr Ysbryd, yn yr Ysgrythyrau