Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/397

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sanctaidd. Nid oedd yr eglurhad cyffredin a roddid gan Dduwinyddion ei amser ar athrawiaethau gras yn gorwedd yn hollol esmwyth ar ei feddwl. Yr oedd yn teimlo angen am ryw wedd arnynt, a barai iddynt ymddangos yn fwy cyson âg ystyr naturiol yr holl ddadguddiad dwyfol, ac nid yn gorphwys ar ryw ranau o hono, gan esgeuluso, neu wrthwynebu, rhanau ereill. Yr oedd yn tybied ei fod wedi cael y cyfryw olygiad arnynt trwy edrych ar Iesu Grist wedi marw dros bawb, gyda'r bwriad o'u gwahodd a'u galw i edifeirwch; a phan y byddont yn cael eu galw felly, mai eu drygioni eu hunain yn unig sydd yn peri na byddant cadwedig. Ond, yn gymmaint ag mai parhau yn anedifeiriol a wna dynion o honynt eu hunain, fod y Duw mawr, o'i ras, yn rhoddi edifeirwch i'r etholedigion fel y byddont hwy gadwedig. Dyma yn fyr swm ei athrawiaeth ef. Fe fu efe farw yn y flwyddyn 1625. Ond fe gofleidiwyd ei syniadau gan amryw o'i ddysgyblion, yn enwedig gan Amyraut neu Amyraldus, a Placæus, y rhai hefyd a ddaethant yn Athrawon Duwinyddol yn Saumur. Amddiffynai Amyraldus ei olygiadau gyda medrusrwydd a hyawdledd mawr, ger bron Cymanfaoedd yn Ffrainc, yn gystal a thrwy y Wasg. Derbyniwyd ei amddiffyniad gan y llysoedd eglwysig, y gwysiasid ef ger eu bron, fel yn gwbl foddlonol; a daeth amryw o wyr galluocaf Ffrainc, megis Daille, a Claude, allan yn ei blaid, yn erbyn yr ymosodiadau a wneid arno gan Spanheim, a Maresius, ac, yn enwedig, gan Andrew Rivet, yr hwn a ystyrid y Duwinydd galluocaf braidd yn ei oes. Ond, yn ngwyneb pob gwrthwynebiad, lliosogi yr oedd pleidwyr ei syniadau, nes yn raddol nad oedd odid neb i'w gael, trwy holl Ffrainc, yn mhlith y Protestaniaid, yn annghytuno âg ef. Erbyn hyn, ysywaeth y mae nifer mawr o honynt wedi encilio yn mhell iawn oddiwrth ffydd yr efengyl, a'r prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu, braidd yn mhob ffurf arno, yn cael ei wadu ganddynt. Ond y mae yno rai eto yn glynu wrth hanfod yr hen wirionedd; a dichon y bydd y profiad tanllyd, y mae y wlad annedwydd hono yn awr tano, yn cael ei fendithio, gan y Llywodraethwr Mawr, i ddwyn meddyliau ei thrigolion i ymdeimlo â geudeb a thwyll Ffurfioldeb ar y naill law, ac Anianoldeb ar y llaw arall, ac y bydd coleddwyr syml y gwirionedd, megis ag y mae yn yr Iesu, yn amlhau yn ddirfawr eto o'i mewn.

Y mae yr un ddadl wedi bod er ys oesoedd yn rhanu Calviniaid yn America. Hi a ddechreuodd yno yn mhlith yr Eglwysi Cynnulleid-