Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/398

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

faol neu Annibynol. Yr hen olygiad yno oedd, fod Iesu Grist yn Iawn yn unig dros ei bobl, ac eto fod y fath wiwdeb a gwerth yn ei aberth ag y gellid galw ar bechaduriaid yn ddiwahaniaeth ac yn gwbl gyffredinol i dderbyn maddeuant ac iachawdwriaeth drwyddo. Dyna yn sicr y golygiad a goleddid gan Mr. Jonathan Edwards, er ei fod weithiau. yn defnyddio iaith ag sydd yn ymddangos fel pe na buasai yn mhell oddiwrth y golygiad arall. Dyma ei eiriau ef yn Niweddglo ei Draethawd ar yr Ewyllys:—Oddiwrth y pethau hyn fe ganlyna yn anocheladwy, pa fodd bynnag y gellir dyweyd fod Crist mewn rhyw ystyr wedi marw dros bawb, a phrynu yr holl Gristionogion gweledig, ïe, yr holl fyd, trwy ei farwolaeth; eto y rhaid fod rhywbeth neillduol yn amcan ei farwolaeth, gyda golwg ar y rhai y bwriadai efe iddynt yn weithredol gael eu hachub trwy hyny" (Cyfieithiad y Parch. Daniel Rowlands, tu dal. 39; Works, Vol. II., page 179, New York, 1844). Ond gyda Dr. Bellamy a Dr. Hopkins, a Dr. West, ac yn enwedig gydâ Dr: Jonathan Edwards, mab Mr. Jonathan Edwards, fe ddaeth cyfnewidiad yn ngolygiadau Duwinyddion yr eglwysi cynnulleidfaol yn America ar y pwnc hwn. Yr oedd Bellamy a Hopkins a West yn dal yn gryf fod perthynas neillduol rhwng Iesu Grist a'r etholedigion yn ei farwolaeth, fel Meichniydd drostynt, ac felly fod ei farwolaeth ef yn sicrhau iachawdwriaeth a bywyd tragywyddol iddynt hwy; tra, ar yr un pryd, yr oedd yn symmud ymaith bob rhwystr o du y nefoedd er iachawdwriaeth y byd yn gyffredinol ond gwneuthur derbyniad o hono ganddynt; fel ag y gellir dywedyd, mewn gwirionedd, ei fod wedi marw dros bawb. Dyna y golygiad a geir yn Bellamy's True Religion Delineated (Works, Vol. I., pages 301—308, Boston, 1850); yn Hopkins's System of Doctrines (Works, Vol. I., pages 319–367, Boston, 1852); ac yn West's "Essay on the Atonement." Nid yw y llyfr diweddaf hwn yn awr yn ein cyrhaedd, fel ag i'n galluogi i gyfeirio yn fanylach ato; yr ydym yn gwbl sicr, oddiwrth ein cydnabyddiaeth âg ef, flynyddoedd yn ol, mai dyna y tir a gymmerir ganddo. Ond gan Dr. Jonathan Edwards, mewn tair pregeth a bregethwyd ganddo yn New Haven, Connecticut, yn y flwyddyn 1785, ac a argraffwyd y pryd hyny, y cyflwynwyd yn gyntaf, trwy y wasg, y syniad neillduol ar yr Iawn sydd wedi cael ei dderbyn, er y pryd hwnw, braidd yn gyffredinol yn yr eglwysi Cynnulleidfaol yn America. Y syniad hwnw yn fyr yw,— Nad ydyw y boddlonrwydd a roddwyd trwy farwolaeth ac yn aberth