Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/399

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Crist i gyfiawnder dwyfol, i'w olygu o natur fasnachol, megis gwerth am werth; nac ychwaith o natur gyfreithiol, ac edrych ar bob dyn ar wahan yn ei achos personol rhyngddo â Duw, fel ag i roddi iddo hawl erddo i honi iachawdwriaeth ar dir cyfraith; ond o natur gyffredinol a chyhoeddus, fel yr hyn sydd wedi rhoddi y fath amddiffyniad i'r gyfraith ag i symmud ymaith bob rhwystr oddiar ffordd y Llywodraethwr mawr i faddeu i ddynolryw yn gyffredinol a diwahaniaeth, —anetholedig fel etholedig,—a gredont yn Iesu Grist i hyny: eithr nad ydyw, ynddo ei hunan, yn sicrhau iachawdwriaeth i neb yn neillduol, a bod cadwedigaeth rhyw rai trwyddo ragor ereill, yn cyfodi nid oddiar natur yr Iawn, ei werth, na'i osodiad, ond yn gwbl o ewyllys rasol a phenarglwyddiaethol y Jehovah mawr ei hun. Dyna, ni a dybygem, sylwedd golygiad Dr. Jonathan Edwards ar y pwnc (Works, Vol. II., pages 11—52, Andover, 1842). Yr un golygiad, o ran hanfod, a gymmerid gan gorph y Duwinyddion hyny yn America a'u proffesent eu hunain fel dysgyblion a chanlynwyr i Mr. Jonathan Edwards, er eu bod mewn gwirionedd, yn hyn, yn gwahaniaethu yn ddirfawr oddiwrth y dyn mawr hwnw. Yr oedd rhai, yn sicr, o'r rhai a ystyrir felly, yn rhoddi mwy o le i berthynas gyfammodol Iesu Grist â'i bobl yn ei farwolaeth nag a gydnabyddir gan y lleill; megis, Dr. Dwight (Theology Explained and Defended, Sermon xliii., Vol. II., pages 63—73, New York, 1851), Dr. Griffin (An Humble Attempt to reconcile the Differences of Christians respecting the Extent of the Atonement, pages 259—262, of a volume called, "The Atonement. Discourses and Treatises by Edwards, Smalley, Maxcy, Emmons, Griffin, Burge and Weeks. With an Introductory Essay, by Edwards A. Park, Professor of Christian Theology, Andover. Third edition, Boston, 1863), ac yn neillduol, Dr. Woods, yr hwn sydd yn tynu yn agos iawn at yr hen olygiad Puritanaidd, ond yn unig ei fod yn gryf dros gyfeiriad cyffredinol yr Iawn (Works, Vol. II., pages 456—504, Andover, 1850). Ond er fod rhai o honynt yn cymmeryd y tir hwn, nodwedd gyffredin eu hathrawiaeth ydyw, nad yw yr Iawn ond darpariaeth sydd yn caniatau, neu yn gwneuthur yn bosibl, i'r Anfeidrol achub y sawl a fyno, heb yr un berthynas fwy rhyngddo â neb na'u gilydd; tra, ar yr un pryd, y maent yn addef ac yn dadleu dros y bwriad dwyfol i achub yr etholedigion yn unig trwyddo. Yn wir, y mae Emmons yn gwadu haeddiant yr iawn yn mhob ystyr. Y mae yn dadleu na haeddodd Crist faddeuant hyd yn nod i gredinwyr; na