Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganddynt, yr hyn a effeithio yn fwyaf arnynt hwy neu a ganfydder ganddynt yn tynu mwyaf o sylw ereill. Yr ydym ni ein hunain yn tueddu i feddwl, a chymmeryd pob peth mewn cysylltiad ag ef i ystyr iaeth, fod pethau crefydd eisoes wedi cymmeryd gafael wirioneddol yn ei deimladau, os nad wedi ennill llywodraeth hollol arno: ond pa beth bynag am hyny, yr oedd yr hyn a'i hynodai yn y blynyddoedd hyny, ac a gofir eto gyda'r fath fywiogrwydd gan liaws o'i gyfoedion, a rhai gryn lawer yn hŷn nag ef, yn rhagarwyddo yn amlwg nodwedd arbenig ei athrylith, a'r cymhwysder annghyffredinol, gwreiddiol a naturiol, oedd ynddo i'r gwaith mawr a ddaeth wedi hyny yn brif orchwyl a phrif hyfrydwch ei fywyd, ac y bu o gymmaint bendith i'w genedl trwyddo.