Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/400

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

haeddodd efe ddim iddo ei hunan, nac i bechaduriaid ychwaith; nad oedd yr Iawn wedi ei fwriadu i ac na wnaeth ddim mwy na gwneyd maddeu ac achub yn beth cyfiawn (Works edited by Jacob Ide, D.D., Vol. II., pages 803, 804, Boston, 1860). Nid oedd eisiau llawer o athrylith i ddadblygu y golygiad hwn, fel y mae Dr. Bushnell ac amryw ereill yr ydym yn ofni yn awr yn eu plith wedi gwneyd, nes ymwrthod yn hollol â'r syniad am aberth Crist mewn un ystyr yn foddlonrwydd i gyfiawnder dwyfol, ac yn dadleu nad oes un rhinwedd yn perthyn iddo ond yn unig dylanwad moesol ei ymostyngiad a'i ufudd-dod a'i hunan—aberthiad ar feddwl a chalon y byd. A pha beth fydd y dadblygiad nesaf?

Bu yr un ddadl, yn gysylltiedig â dadleuon ereill, flynyddoedd yn ol, yn achos cynhwrf dirfawr yn yr Eglwys Henaduriaethol yn America. Yr oedd yr Eglwys hono, yn ei ffurfiad cyntaf, yn y flwyddyn 1705, yn gynnwysedig o ymfudwyr o Scotland a Gogledd yr Iwerddon, —y rhai oeddent wedi eu dwyn i fynu o'u mebyd yn Henaduriaethwyr,—ac o aelodau a gweinidogion wedi bod mewn cysylltiad â'r Eglwysi Cynnulleidfaol, yn New England. Pa fodd bynnag, ymunasant â'u gilydd yn un Henaduriaeth, a elwid yn Henaduriaeth Philadelphia. Ar y cyntaf, ac am bum mlynedd ar hugain, nid oedd ganddynt yr un Gyffes Ffydd neillduol, ond yr oeddent yn adnabyddus fel Calviniaid manwl. Yn y flwyddyn 1729, ymffurfiasant i wedd fwy rheolaidd fel Henaduriaethwyr, a chytunasant i gymmeryd Cyffes Ffydd Westminster fel eu Cyffes. Parhäodd y rhai oeddent o ogwyddiadau Cynnulleidfaol, a'r Henaduriaethwyr caethaf, i gydymddwyn ac i gydweithredu yn dawel â'u gilydd yn yr undeb hwn, hyd y flwyddyn 1741. Y pryd hyny, oblegyd diffyg cydolygu yn nghylch llafur y Parch. George Whitefield a'r gefnogaeth a ddylesid roddi iddo ac i'r Adfywiad grymus ar grefydd oedd yn y gwledydd drwyddo, darfu iddynt wahaniaethu i'r fath raddau fel yr ymranasant yn ddwy Gymmanfa, neu yn hytrach, fe ffurfiwyd Henaduriaeth newydd yn New York, ar wahan oddiwrth hen Gymmanfa Philadelphia;—pleidwyr Mr. Whitefield yn ffurfio yr Henaduriaeth newydd, yr hon a wnelid i fynu gan mwyaf, er nad yn gwbl, o rai o ogwyddiadau Cynnulleidfaol, a'r hen Gymmanfa, yn cynnwys yr Henaduriaethwyr caethaf, gan mwyaf yn wrthwynebwyr cryfion iddo. Adnabyddid y naill fel y New Side (yr Ochr Newydd); a'r lleill fel yr Old Side (yr Hen Ochr). Oddiar yr ymraniad