Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/401

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nwn y cyfodwyd Athrofa New Jersey, mewn cysylltiad â Chymmanfa New York (daeth yr Henaduriaeth yn Gymmanfa yn 1745), ac yr oedd ei Llywyddion cyntaf, Dickinson, Burr, JONATHAN EDWARDS, a Samuel Davies, yn gyfeillion mynwesol i ac yn gydlafurwyr calonog â Mr. Whitefield. Yn y flwyddyn 1758, fe gyfanwyd y rhwyg hwn, ac fe ffurfiwyd undeb rhwng y ddwy Gymmanfa. Ond yr oedd gradd o amrywiaeth golygiadau a theimladau yn parhau, a'r pleidiau eto yn cael eu hadnabod fel yr hen ochr a'r ochr newydd, tra yr oeddent oll wedi eu dwyn i deimlo nad oedd y gwahaniaeth rhyngddynt yn ddigon mawr a phwysig i'w cadw mewn ysgariaeth oddiwrth eu gilydd. Yr oedd pethau yn awr yn myned rhagddynt yn dangnefeddus a llwyddiannus, ac eto yr oedd yr elfenau amrywiol, a berthynent i'r Eglwys ar ei ffurfiad cyntaf, i raddau yn parhau ynddi. Yn ngwyneb cynnydd poblogaeth y Taleithiau, ac yn enwedig ymfudiad yn mhellach i'r gorllewin, fe deimlid gan Gristionogion yn gyffredin yr angenrheidrwydd am ddarpar rhyw foddion er sicrhau manteision crefyddol cyfatebol. Yr oedd Cymmanfa gyffredinol yr Eglwysi Cynnulleidfaol yn Connecticut wedi ymffurfio, er y flwyddyn 1798, yn gymdeithas genhadol i'r amcan hwnw. Ac yn y flwyddyn 1801, fe ymffurfiodd Cymmanfa gyffredinol yr Eglwys Henaduriaethol yn gymdeithas genhadol i'r un amcan. Gan fod y ddau gyfundeb a'u llygaid ar yr un gwaith, ac yn anfon eu cenhadon megis i'r un maes, ac nad oedd y gwahaniaeth rhyngddynt yn cyffwrdd â dim hanfodol i iachawdwriaeth, fe deimlid yn resyn mawr iddynt ymddangos fel yn erbyn eu gilydd, yn neillduol dan amgylchiadau ag yr oedd cymmaint angen am eu cyd-ymdrech mwyaf egnïol er llenwi y wlad â'r efengyl; a thybid, pe gallesid cael rhyw gynllun i uno eu gweithrediadau, y gallent felly wneuthur llawer mwy dros Iesu Grist. Yn ganlynol, yn Nghymmanfa gyffredinol yr Eglwys Henaduriaethol, yn y flwyddyn 1801, ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth, fe ddygodd Dr. Jonathan Edwards, yr hwn oedd yn awr mewn cysylltiad â'r Eglwys hono, y peth i sylw; ac fe barotowyd "cynllun undeb" ganddo ef a brodyr ereill, yr hwn a gymmeradwywyd yn unfrydol gan y Gymmanfa, ac a anfonwyd, yn ngofal cenhadon drosti, i Gymmanfa Connecticut, am ei chymmeredwyaeth hithau. Cytunwyd gan y Gymmanfa hono hefyd arno; ac yn ol y "Cynllun " hwnw y bu y ddau Gyfundeb yn dwyn yn mlaen eu gweithrediadau cenhadol cartrefol am bymtheng mlynedd ar hugain. Yr oedd yr "Undeb" wedi ei