Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/402

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwriadu i wasanaethu yr amcanion goreu, ac y mae yn ddiammheuol iddo ateb dibenion gwerthfawr i grefydd efengylaidd yn America; ond y mae mor ddiammheuol mai oddiyma y cododd y gofidiau mawrion y cyfarfu yr Eglwys Henaduriaethol a hwynt, y rhai a derfynasant mewn ymrwygiad hollol. Yr oedd yr hen wahaniaeth, ag oedd mewn un wedd arno wedi peri yr ymraniad yn y flwyddyn 1741, eto yn parhau, ond ei fod yn awr wedi cymmeryd gwedd bynciol, a'r pleidiau yn cael eu hadnabod fel yr "Hen Ysgol" (Old School) a'r Ysgol Newydd " (New School). Eithr pan nad oedd ond gwahaniaeth yn nghylch Helaethrwydd yr Iawn, tra yr addefid fod perthynas neillduol rhwng Iesu Grist yn ei farwolaeth â'r etholedigion, yr oeddent yn gallu goddef eu gilydd yn dangnefeddus. Ond yr oedd y rhai a adnabyddid fel yn perthyn i'r Hen Ysgol," ac oeddent eiddigus dros burdeb yr athrawiaeth, a chydymffurfiad manwl â Chyffes Ffydd Westminster, yn dra phryderus ac anesmwyth oblegyd y syniadau newyddion a ddysgid gan Dr. Taylor, Dr. Fitch, a Dr. Goodrich, y rhai oeddent athrawon Duwinyddiaeth yn Athrofa Yale, New Haven, ar Bechod Gwreiddiol, Dylanwadau yr Ysbryd, Ailenedigaeth, &c.,—syniadau a wrthwynebid gyda'r fath egni a phenderfyniad gan Dr. Woods, Dr. Porter, Dr. Tyler, Dr. Griffin, Mr. Nettleton, a gwyr ereill o gyffelyb ysbryd, y rhai a ystyrid fel cynnrychiolwyr golygiadau corph yr Eglwysi Cynnulleidfaol pan y ffurfiwyd y "Cynllun Undeb," yn y flwyddyn 1801. Yr oedd Dr. Archibald Alexander, Princeton, Dr. Miller, Dr. Rice, Dr, Green, ac, yn ddiweddarach, ond yn fwy galluog nag yr un o honynt, Dr. Hodge, wedi dyfod allan trwy y Wasg, naill ai yn eu henwau eu hunain, neu yn y "Christian Advocate," neu y "Biblical Repertory," i amddiffyn purdeb yr athrawiaeth, ac i ddangos geudeb ac anfadrwydd y syniadau oeddent yn ymwthio i'r Eglwys Henaduriaethol, trwy ddylanwad New Haven. Ond, er y cwbl, yr oeddent yn parhau i'w blino, a'u pleidwyr yn lliosogi yn eu plith. Daethant o'r diwedd yn gwbl argyhoeddedig nad oedd gobaith llonyddwch iddynt tra y parhai y cysylltiad oedd rhyngddynt â'r Eglwysi Cynnulleidfaol, a phenderfynasant na orphwysent nes ymryddhau oddiwrtho. Yr oedd Mr. Albert Barnes, Dr. Beecher, Mr. Duffield, ac ereill, o bryd i bryd, wedi eu dwyn i brawf ger bron gwahanol lysoedd eglwysig, oblegyd cyfeiliornadau gyda golwg ar y Pechod Gwreiddiol, yr Iawn, Anallu dyn, Gwaith yr Yspryd, Ailenedigaeth, &c., ond yr oedd pob prawf yn methu dwyn y rhai