Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/403

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyhuddedig i mewn yn euog. Yr oedd plaid yr "Hen Ysgol" yn priodoli hyn ol i'r dylanwad oedd gan syniadau New Haven a Connecticut, trwy yr "Undeb," ar olygiadau athrawiaethol yr Henaduriaethau a'r Cymmanfaoedd a'r Gymmanfa Gyffredinol: ac, yn neillduol, yr oedd y mwyafrif mawr a gawsai Mr. Barnes drosto yn y Gymmanfa Gyffredinol, yn y flwyddyn 1836,—cant a phump a deugain yn erbyn deunaw a thriugain, tra yr oedd unarddeg heb roddi eu llais unrhyw ffordd,—a rhyddhad Dr. Beecher gan Henaduriaeth a thrachefn gan Gymmanfa Cincinnati, a methiant yr achwynwr i ddwyn yr achos yn mlaen yn ei erbyn yn y Gymmanfa Gyffredinol, yn yr hon y cyfiawnhäwyd Mr. Barnes, yn cadarnhau eu meddyliau yn y golygiad a goleddent am ddylanwad yr "Undeb," ac yn cryfhau eu penderfyniad i'w ddiddymu, a hyny yn ddioed. Yn ganlynol, hwy a dynasant allan eu holl nerth i sicrhau hyny yn y Gymmanfa Gyffredinol nesaf, yn y flwyddyn 1837, ac a lwyddasant. Yr oedd y mwyafrif o aelodau y Gymmanfa hono yn perthyn i blaid yr "Hen Ysgol." A'r peth cyntaf a wnaethant oedd diddymu "Undeb " 1801; ac, yna, penderfynasant nad oedd un Eglwys Gynnulleidfaol i gael ei chynnrychioli mewn un llys eglwysig perthynol i'r Eglwys Henaduriaethol; ac nad oedd un Henaduriaeth ncu Gymmanfa gymmysg o Henaduriaethwyr a Chynnulleidfawyr i'w hystyried, o hyny allan, yn rhan o'r Eglwys Henaduriaethol. Yr oedd hyn, mewn effaith, yn tori pedair o Gymmanfaoedd allan o gymundeb â'r Eglwys hono.

Yr oedd llawer o'r gwyr galluocaf a berthynent i blaid yr "Hen Ysgol," yn annghymmeradwyo y gweithrediadau hyn, ac, yn enwedig, yn annghymmeradwyo y mesurau a ddefnyddiasid tuag at ddwyn hyn oddiamgylch; tra yr oeddent, yr un pryd, yn teimlo y buasai ymwahaniad tangnefeddus, dan yr amgylchiadau, yn fwy cysurus i'r naill blaid a'r llall. Dyna y tir a gymmerid gan y gwr parchedicaf, fe allai, a berthynai i'r blaid hono, Dr. Archibald Alexander, Princeton. O'r tu arall, yr oedd rhai ag oeddent yn mhob peth, oddieithr helaethrwydd yr Iawn, yn cyd—olygu ac yn cydymdeimlo, o ran athrawiaeth, â'r hen ysgol, megis Dr. James Richards, Athraw Duwinyddiaeth yn Athro fa Auburn, yn ystyried yr ymddygiad mor wrthwyneb i ysbryd yr efengyl, ag y cymerasant eu rhan gyda'r brodyr ag oeddent, drwy y gweithrediadau hyn, yn cael eu tori ymaith. Fe allasai yr Henaduriaethau a'r Cymmanfaoedd, a olygid yn y penderfyniadau hyn, pe buasent yn gweled