Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/404

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn oreu ymneillduo oddiwrth eu brodyr Cynnulleidfaol, ac ymffurfio yn Henaduriaethwyr pur, barhau o fewn yr Eglwys Henaduriaethol. Ond, wedi cynnal Cynnadledd ac ymgynghori â'u gilydd pa beth fyddai oreu iddynt wneuthur, penderfynasant barhau fel yr oeddent, gan gadw at "Undeb"; ac aethant i'r Gymmanfa Gyffredinol ganlynol, yn y flwyddyn 1838, i hòni eu lle fel aelodau o honi. Cyn i hyny gael ei omedd yn ffurfiol, enwasant un o honynt eu hunain yn Gymmedrolwr, ac un arall yn Ysgrifenydd, a chyhoeddasant eu hunain fel y Gymmanfa Gyffredinol wirioneddol a chyfreithlawn, ac yna aethant allan. Felly fe rwygwyd yr Eglwys yn ddwy ran, gyda dwy Gymmanfa Gyffredinol, y naill fel y llall yn hòni mai hi oedd yr un iawn. (Life of Archibald Alexander, D.D. First Profesor in the Theological Seminary, at Princeton, New Jersey. By James W. Alexander, D.D., pages 470—479, New York, 1854; Autobiography, Correspondence, &c., of Lyman Beecher, D.D. Edited by his Son, Charles Beecher, Vol. II., pages 338–361. London, 1865; The Catastrophe of the Presbyterian Church, in 1837. By Zebulon Crocker, Delegate from the General Association of Connecticut to the General Assembly of 1837; pages 47—121. New Haven, 1838; Baird's Religion in America, pages 472—486. New York, 1856.)

Wedi cryn lawer o ymgyfreithio gyda golwg ar y meddiannau a berthynent i'r Eglwys Henaduriaethol, fe farnwyd mai Cymmanfa yr " Hen Ysgol" oedd y Gymmanfa wirioneddol, ac mai eiddo i'r Eglwys hono oedd y meddiannau a'r cyllidau perthynol i'r holl Eglwys yn flaenorol. Fe barhaodd teimladau annghysurus am beth amser rhwng y pleidiau, ond nid yn hir iawn. Daethant yn raddol i deimlo mai prin yr oedd y gwahaniaeth rhyngddynt yn cyfiawnhau y cam a gymmerasid. Daeth y blaid a berthynai i'r Ysgol Newydd" i weled nad oedd y gwahaniaeth rhyngddynt a'r "Hen Ysgol," gydâ golwg ar gyfeiriad cyffredinol yr Iawn, ond bychan mewn cymhariaeth â'r gwahaniaeth oedd rhyngddynt a Duwinyddion New Haven gyda golwg ar ei natur, yn gystal a chyda golwg ar rai syniadau ereill a ddelid ganddynt; a daeth plaid yr "Hen Ysgol" i weled ac i deimlo nad oedd eu brodyr o'r "Ysgol Newydd" yn llai ffyddlawn na hwythau i hanfod yr efengyl, tra yr oeddent, er dadleu dros gyfeiriad cyffredinol yr Iawn, yn addef fod perthynas neillduol rhwng Iesu Grist, yn ei farwolaeth, a'i bobl fel eu Meichnïydd y fath berthynas ag sydd yn sicrhau cymhwysiad o rinweddau ei aberth atynt, er eu hiachawdwriaeth. Yr oedd teimladau