Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II.

DYDDIAU EI IEUENCTYD: 1807—1815.

Y Plentyn yn rhoddi i fyny Bregethu—ei ddifrifwch er hyny yn ychwanegu— Rhwymedigaethau newyddion yn disgyn arno ar ol marwolaeth ei Dad—Cerddoriaeth yn dyfod yn destyn mawr ei fyfyrdod—ei athraw cerddorol y noson ganu yn Nhany—castell—John Jones fel cantor—fel dechreuwr canu—ei ymroddiad i'r gwaith—ei ofal am y teulu—ei ddiwydrwydd—Temtasiynau yn ymosod arno—ei enciliad o'r eglwys—pryder ei fam yn ei gylch, a'i gweddïau ar ei ran

Yr oedd John Jones yn awr wedi ei adael heb dad, a'r gofal am dano ef a'r plant ereill yn disgyn yn uniongyrchol ac yn unig ar ei fam weddw. Ac, fel y gallesid dysgwyl, nid ychydig oedd ei phryder hi yn eu cylch, yn neillduol yn ei gylch ef, fel ei mab hynaf, a'r mwyaf agored, o ran ei oedran, i ymosodiadau llygredigaethau cyffredin y wlad a'r oes arno. Pan ydoedd tua deuddeng mlwydd oed fe gymmerodd cryn gyfnewidiad le ynddo yntau a fu yn achlysur i gynnyddu y pryder hwn ynddi i raddau mawr. Yr oedd efe bob amser yn blentyn tawel, gwylaidd, yn byw llawer iawn wrtho ei hun, ac heb gyfeillachu nemawr ddim â phlant ereill, oddieithr pan y caffai nifer o honynt ynnghyd i bregethu iddynt. Hyny, fel y gwelsom eisoes, a fuasai hyfrydwch mawr ei einioes hyd yn hyn. Ond yn awr fe roddodd y pregethu i fynu yn gwbl, ac a ddaeth ar unwaith yn nodedig o ddistaw a disiarad am bethau crefydd, ac, yn enwedig, i adrodd dim o'i deimladau ei hunan o berthynas iddynt pan y ceisiai neb hyny ganddo. Aeth ei fam yn y fan, fel yr oedd yn gwbl naturiol iddi, yn ei gofal am dano, i ofni fod hyny yn cyfodi oddiar gynnydd llygredigaeth yn ei galon yn dieithro ei feddwl i bethau Duw. Ond prin yr ydym yn tybied fod ganddi eto unrhyw sail wirioneddol i'w hofnau. Fe sicrheir i ni nad oedd un arwydd arall o hyny yn dyfod i'r golwg ynddo, a bod llawer o bethau, o'r tu arall, yn ymddangos ynddo yn