Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hollol annghydweddol â'r fath dybiaeth. Yr oedd mor gyson ag y buasai erioed yn yr holl foddion crefyddol, y cyfarfodydd eglwysig â'r cwbl, a gynnelid yn y Capel neu mewn rhyw dai annedd yn y gymmydogaeth a hyny pa un bynnag ai Sabbath ai dydd gwaith, ac yn edrych fel un yn eu mwynhau hyd foddlonrwydd ei galon; yr oedd yn darllen Bibl yn gyson, er nad cymmaint âg a arferasai cyn hyny; yr oedd yn nodedig o wyliadwrus ar ei eiriau yn gystal ag ar ei holl ymddygiadau; yr oedd yn hynod o ofalus rhag dilyn unrhyw gyfeillach ag y gallai fod dim ynddi yn groes i grefydd; ac yr oedd ei sobrwydd a'i ddifrifoldeb cyffredinol yn adnabyddus ac yn amlwg, a braidd yn syn dod i'w holl gymmydogion. Nid oedd, hyd y gallwn ni weled, un arwydd beth bynag eto, oddieithr ei ddistawrwydd gyda golwg ar bethau crefydd, fod ei galon yn cilio dim oddiwrthynt. Ac y mae yn ymddangos i ni yn llawer tebycach fod hyny i'w briodoli i achosion ereill o natur hollol wahanol, a ddechreuasant yn awr ddylanwadu arno, nag i wrthgiliad yn ei ysbryd. Yr oedd yn awr wedi dyfod i oedran a synwyr a ddysgent iddo yn naturiol deimlo yn wylaidd i barhau i bregethu i'r plant fel ag yr arferasai hyd yn hyn, ac nid yn unig hyny, ond i deimlo mesur o gywilydd hefyd o'r hyn, oedd, fe allai, yn awr yn ymddangos iddo yn radd o ffolineb ynddo yn hyny. Ac yr oedd yn gwbl naturiol i'r fath deimlad effeithio arno i'w wneyd yn dawedog yn gyffredinol gyda golwg ar y pethau ag yr oedd, hwyrach, yn tueddu i'w gondemnio ei hunan ei fod wedi bod yn gwneuthur yn rhy hŷf arnynt. Heblaw hyny, tua y pryd hwn, fe gafodd ryw fodd anhwyldeb i'w ben a effeithiodd yn ddirfawr ar un glust iddo, fel ag i beri i'w glyw fod, yn neillduol trwy y glust hono yn dra thrymaidd, yr hyn ar amserau a fu, i raddau mwy neu lai, yn ei boeni hyd weddill ei oes. Ymddangosai ar brydiau tua'r blynyddoedd y cyfeiriwn atynt, gan mor drymaidd oedd ei glyw, fel pe buasai yn hwyrfrydig ei ddeall, yn gymmaint felly nes peri fod rhai o ieuenctyd gwylltion ac anystyriol yr ardal yn edrych arno braidd gyda diystyrwch, ac yn barod i briodoli y sobrwydd a'r difrifoldeb oeddynt mor amlwg ynddo, yn fwy i ryw fesur o hurtrwydd nag i ddim arall. Ac y mae yn ddiammeu fod yr un peth yn dylanwadu yn gryf iawn er peri iddo yntau fod yn hwyrfrydig i adrodd ond ychydig neu ddim o'i deimladau i ereill. Tua'r pryd hwn hefyd, fe ddaeth i ymdeimlo yn ddwys âg amgylchiadau ei fam a'r teulu, ac i ystyried, gan mai efe oedd y mab hynaf, fod yr hyn