Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd o'r blaen yn waith y tâd yn disgyn yn naturiol arno ef. Yr oedd ganddo bedair chwaer hŷn nag ef, ac un chwaer a thri brawd iau nag ef, a gwnaeth ei feddwl i fynu i wneuthur ei oreu tuag at gadw pethau yn mlaen yn gwbl gysurus. Er mor ieuanc ydoedd, teimlai fod cyfrifoldeb gofalu am danynt oll yn awr yn gorphwys arno ef, ac ymroddodd gydag egni, pell uwchlaw i'w oedran, i bob llafur angenrheidiol er sicrhau hyny. Fe'i dygwyd felly yn foreu iawn ar ryw ystyr i ganol trafferth y byd ac i ymladd brwydr galed bywioliaeth teulu. Yr oedd ei amgylchiadau, gan hyny, yn angenrheidiol yn ei daflu o'r cylch plentynaidd y buasai o'r blaen yn troi ynddo, ac nid rhyfedd os teimlai gymmaint oddiwrth y cyfrifoldeb newydd oedd yn awr arno nes ei wneuthur yn lled anmharod i siarad llawer am ddim arall. Un o'r nodweddau amlycaf yn ei gymeriad ef ar hyd ei oes, ydoedd, mai yr hyn fyddai ganddo oedd agos ei gwbl ef ar y pryd. Yr oedd yn arbenig yn y gallu a feddiannai i'w daflu ei hunan yn hollol i'r hyn yn neillduol a dynai ei sylw neu a deimlid ganddo yn ddyledswydd, ac yn hyny, fel y cawn weled eto, yr oedd un o elfenau cryfaf ei lwyddiant.

Ond fe ddichon, wedi y cwbl, mai y prif reswm am y cyfnewidiad a ganfyddwyd ynddo y pryd hwn oedd testyn arall a ddaeth yn awr ger bron ei feddwl, yr hwn, er nad oes dim anghydweddol rhyngddo â chrefydd a'i fod ef yn ddiddadl yn ei astudio er mwyn gwasanaethu crefydd, eto, yn ol y sylw a wnaed genym eisioes ar yr hyn oedd yn nodwedd arbenig yn ei gymeriad ef, a ennillodd y fath lywodraeth arno ag i'w wneuthur i fesur mawr, o ran gweithrediad uniongyrchol ei feddwl, yn ei holl oriau hamddenol mor gaeth ganddo ag i daflu pob peth arall braidd mewn cymhariaeth i'r cysgod. Y testyn hwnw oedd CERDDORIAETH. Yr ydoedd er pan yn blentyn bychan yn hoff iawn o ganu ac yn meddiannu llais tra soniarus. Yr oedd ei dad o'i flaen yn dra hoff o gerddoriaeth, yn gallu ei hymarfer yn rhagorol megis celfyddyd ac yn hollol gyfarwydd, yr hyn oedd beth tra annghyffredin y pryd hwnw yn Nghymru, â'i helfenau megis gwyddor, ac yn meddu ar lais ardderchog na byddai byth yn gallu osgoi llywodraeth ei berchen. Buasai am flynyddoedd yn un o'r cantorion yn Llan y plwyf, ac wedi iddo ymuno â'r Methodistiaid, a'i ddewis yn ddiacon, efe oedd bob amser yn arwain y canu yn y Capel. Gadawodd ar ei ol amryw lyfrau tônau. Ymroddodd John tua'r amser hwn, pan ydoedd tua deuddeg oed, a'i holl egni i astudio llyfrau tônau ei dad. Sylwai ar