Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/44

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nodau y tônau adnabyddus iddo ar lais, ac felly esgynodd yn raddol i allu eu defnyddio gyda golwg ar y tônau anadnabyddus. Yr ydoedd bob amser yn ystyried y wybodaeth a gyrhaeddodd fel hyn o'r tôn-lyfrau yn un o orchestion penaf ei fywyd. Ond yr oedd llawer o bethau cysylltiedig â'r gelfyddyd, heb sôn am yr wyddor, yn parhau yn ddïeithr hollol iddo. Nis gallai mewn un modd ddeall ystyr ac amcan lliaws o'r arwyddion a welai yn y llyfrau, ac nid oedd yn gwybod am neb, yn ei gyrhaedd, i'w gynnorthwyo; ac nid ychydig oedd ei awydd am gyfarfod â rhyw un a allasai ei gyfarwyddo.

Yn rhagluniaethol iawn fe ddarparwyd y cyfryw un iddo. Yr oedd yr amser hwnw hên ŵr, o'r enw Griffith Jones, yn byw yn Dolbryn Coch, Capel Curig, yr hwn a gydnabyddid yn gerddor hynod o fedrus, ac nad ymhyfrydai mewn dim mewn cymhariaeth i ganu. Daeth ryw fodd i glywed am y bachgen John Jones, Tan-y-Castell, ac i ddeall ei fod yn hoff o gerddoriaeth, yn berchen llais da, ac yn meddu ar feddwl galluog i gymmeryd addysg, ac o hono ei hunan fe wahoddodd y bachgen i ddyfod ato mor fynych ag y gallai i gael ychydig wersi ganddo. Cydsyniodd yntau yn llawen iawn â'r cynnygiad. Aeth yno amryw droion i dderbyn addysg a dychwelai adref yn wastad fel un wedi cael ysglyfaeth lawer. Fe ffurfiwyd fel hyn y fath gyfeillgarwch cerddorol rhyngddynt fel y daeth yr hên ŵr yn ymwelydd mynych â'r teulu yn Tan-y-Castell. Hyfrydwch ei enaid oedd canu da a chael cyfleusdra i ddysgu y gelfyddyd i bobl ieuanc. Yr oedd fel yn ei ystyried yn groesaw mawr iddo gael gadael ei waith, a cherdded milltiroedd, ar hyd llwybrau diffaeth, dros fynydd annghyfannedd, i fyned i Dan-yCastell i addysgu y plant i ganu heb gael un ddimai am ei drafferth na meddwl am y fath beth. A mawr yn wir oedd ei groesaw gan y teulu pan cyrhaeddai atynt. Yr oedd y fam yn hoff iawn o'i weled yn dyfod at y plant, gan farnu y byddai i'w lafur gyda cherddoriaeth dueddu o leiaf i'w cadw rhag rhyw beth a fyddai gwaeth. Ond am y plant eu hunain y mae yn haws dychymygu na dysgrifio eu dysgwyliad pryderus am noson dyfodiad yr hên gantor, a'u llawenydd pan ddelai. Siaredid llawer am dani amser maith cyn iddi ddyfod, a pharotoid amgylchiadau a lleisiau i'w chyfarfod. Ni cheid y noson hono fawr o orphwys oddiwrth ganu, yn enwedig i'r hên ŵr a John Jones. Weithiau byddent hwy eu dau yn aros i fynu trwy y nos i hyny. Dywed y Parch. David Jones, Treborth, gan gyfeirio at yr amser