Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn:—"Mae yn ddifyrus adgofio troion fel hyn yn nyddiau mebyd, y rhai yr edrychid arnynt y pryd hwnw bron fel nefoedd ar y ddaear. Byddai raid i'r hen athraw yn fynych roddi gwers ar leddfu y llais, gan ddangos yr anmhriodoldeb o waeddi yn annaturiol. Ond wedi y wers yr oedd yn rhaid i blentyn gael rhoddi bloedd weithiau, er mwyn i ereill gael clywed ei lais ef, yn enwedig yn esgyniad y dôn yn uchel, trwy yr hyn y meddyliai y plentyn ei fod yn cymhell y cantorion i ymryson gwaeddi. Nis gallai gwersi medrus yr hên athraw lwyddo i'w argyhoeddi ef i feddwl yn amgen nad oedd gwaeddi yn ogoniant mewn canu. Ond am fy mrawd, John, yr oedd efe yn cymeryd addysg mor naturiol a rhwydd fel y tystiai yr hên athraw na welsai efe neb erioed yn dysgu cerddoriaeth mor gyflym." Y mae yn hawdd iawn genym gredu hyny, oblegyd ei fod nid yn unig, yn naturiol, o alluoedd annghyffredinol ond fod yn amlwg ynddo ar hyd ei oes fod cerddoriaeth megis ail natur iddo, a bod ganddo un o'r lleisiau goreu y bendithiwyd dyn erioed âg ef i'w roddi yn ei gwasanaeth. Er mor ragorol oedd y llais hwnw i bregethu, eto llais canu yn naturiol ac arbenig ydoedd, ac yr oedd y dylanwad anwrthwynebol oedd iddo yn cyfodi yn neillduol oddiar y beroriaeth oedd ynddo. Fe sicrheir i ni fod rhyw bereidd-dra goruwchnaturiol braidd yn ei lais yn mlynyddoedd ei ieuenctyd a phan oedd yn ymroddi at ganu. Yr oedd ei lais," meddai un wrthym, "fel clychau arian." Hyn, bellach, am flynyddoedd a ddaeth ei brif lafur a'i brif hyfrydwch. Dewiswyd ef yn fuan iawn i arwain y canu yn y capel, ac ymgymerodd â'r gorchwyl o lwyr fryd calon. Arwyddai bob amser fedrusrwydd a doethineb neillduol fel y cyfryw. Yr oedd y dôn yn wastadol, pan oedd y canu dan ei arweiniad ef, yn cyfateb o ran cywair i nodwedd y pennill oedd i'w ganu. Ymroddodd lawer i addysgu ieuenctyd y gymmydogaeth, ac ereill a ymhyfrydent yn hyny, i ganu yn briodol. Yr oedd ganddo gyfarfodydd tuag at hyny ar y Sabbath, ac, yn achlysurol, ar nosweithiau yn yr wythnos. Ymosododd yn neillduol yn erbyn yr hyn yr oedd lliaws yn rhy dueddol iddo, sef gwaeddi yn aflafar wrth ganu. Yr oedd yn awyddus i weled y rhan hon o wasanaeth y cysegr yn cael ei chyflawni yn gerddgar a soniarus. A llwyddodd i fesur mawr yn ei amcan. Daeth y canu dan ei lywyddiaeth ef yn Nolyddelen i wedd oedd y pryd hyny yn dra annghyffredin yn y rhan fwyaf o lawer o barthau ein gwlad, ac yr oedd yn meddu rhai hynodion yno y pryd hwnw na cheir