Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mo honynt hyd yn nôd yn awr ond mewn ychydig mewn cymhariaeth o gynnulleidfaoedd. Nid oedd y drefn a'r rheoleidd-dra a'r gweddusrwydd oedd yn y canu yn ei wneuthur yn oeraidd, a dirym, a difywyd. Yr oedd yn hytrach yn uno, i raddau ag y byddai yn ddymunol ei weled yn mhob cynnulleidfa, yr yni, a'r teimlad, a'r bywyd ag oeddent yn nghanu afreolaidd yr hên bobl, gyda'r cywirdeb, a'r coethder, a'r manylder, a ofynir gan reolau y gân. Yr oedd canu John Jones ei hunan yn esiampl neillduol o hyny. Y mae lliaws eto yn fyw yn dystion o'r effeithiau annghyffredinol a deimlid dan ei ganu ef y blynyddoedd hyny. Yr oedd cymmaint o'i ysbryd yn y gwaith fel nad oedd bosibl iddo, yn gysylltiedig a'r fath lais ag oedd ganddo, beidio a bod yn effeithiol. Tra y bu yn gweithio ar y tir gartref, gyda'i frodyr ieuangach, ymroddai â'i holl egni at y gorchwylion a ddisgynent arno, gan eu hannog hwythau i'r unrhyw ddiwydrwydd. Rhag blino gormod arnynt, oblegyd yr oedd efe yn hŷn ac yn llawer cryfach na hwy, annogai hwynt i eistedd i lawr, yn achlysurol, i orphwys, ac eisteddai yntau gyda hwynt. Ond pa bryd bynnag y dygwyddai hyny, gwelid ar unwaith mai un diben ganddo ef oedd cael ychydig gyfleusdra i ganu; canys dechreuid yn ddioed ar hyny. Wedi iddo adael ei gartref i weithio am dymhor, byddai yn dychwelyd adref bob nos Sadwrn. Can gynted braidd ag y dychwelai adref byddai raid iddo gael y teulu ynnghyd i ganu, a dyna gan mwyaf a fyddai ganddo ef a hwythau rhwng yr amrywiol gyfarfodydd yn yr addoldŷ ar y Sabbath. Yn Ty'n Llan, wedi dyfod o'r Capel nos Sul, byddai raid cael cyfarfod canu yn gyson, a byddai hwnw rai gweithiau yn parhau yn hwyr iawn, ac yn cynnyrchu teimladau annghyffredin. Cofir yn dda am un nos Sul, pan, wrth ganu Anthem a elwid yr "Anthem Gron," y disgynodd rhyw ysbryd canu ar yr ieuenctyd fel yr oeddent yn methu ymattal, a John yn blaenori y gân, ac yn ail-ddechreu drachefn a thrachefn, fel pe na buasai byth yn bwriadu rhoddi heibio. Yr oedd pawb yn y lle wedi myned i wylo ac ar dòri allan i waeddi mewn gorfoledd gan y gwres, a'r bywiogrwydd, a'r nerth, a'r tynerwch oedd yn ei ysbryd, a'r rhai hyny yn eu dadguddio eu hunain iddynt yn y seiniau pereiddiaf a ddisgynasai ar glustiau dyn erioed, pan yn taro ac yn ad-daro y rhan hono o'r Anthem, " Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel." Byddai adgofio y dyddiau hyn yn mhen blynyddoedd lawer yn wastad yn ad-loniad i'w ysbrydoedd, ac yn peri ei fod bob