Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amser yn nodedig o gefnogol i ieuenctyd yr eglwysi yn eu hymdrechiadau gyda chanu, tra yr un pryd, yr ydoedd hefyd, oddiar fe allai deimlo ei fod ef wedi gwneuthur hyny am gynnifer o flynyddoedd i raddau gormodol yn unig destyn ei fyfyrdod, yn awyddus iawn am eu hannog i beidio ag esgeuluso unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn eu cyrhaedd, ac yn neillduol i ymgydnabyddu â phob peth a allai eu cynnorthwyo i ddeall ystyr meddwl y Duw Mawr yn ei Air Sanctaidd. Eithr nid oedd yr ymroddiad hwn oedd ynddo ef y pryd hyny at gerddoriaeth ond enghraifft o'r elfen oedd mor amlwg yn ei gymeriad ef ar hyd ei oes,-ei ymgysegriad hollol i'r hyn yr ymgymerai ág ef. Felly yr ydoedd, pan yn blentyn, gyda golwg ar bregethu, ac felly, yn ei ieuenctyd i ganu; fel ag y daeth, yn mhen ychydig amser i waith mawr ei fywyd. Yn yr ysbaid yn awr dan ein sylw fe gyfansoddodd ei hunan amryw dônau a ystyrid yn rhai rhagorol iawn, ac y canwyd llawer arnynt yn Nolyddelen a'r ardaloedd cylchynol. Nid ydym yn gwybod a ydynt eto ar gael. Mae nifer mawr o rai a gyfansoddwyd ganddo yn mlynyddoedd diweddaf ei oes eto i'w cael, a dysgwyliwn gael rhyw nifer o honynt i'w cyhoeddi yn y Cofiant hwn. Fe ddywedir i ni fod llawer o wreiddiolder, a symledd, a naturioldeb, gyda mesur helaeth o arucheledd ei feddwl athronyddol a barddonol ei hunan, i'w ganfod ynddynt, a'u bod yn neillduol yn gymhwys er cyfarfod yr hyn a ystyrid ganddo ef yn gryn ddiffyg yn y tônau a genir, neu yn hytrach erbyn hyn a genid, yn ein haddoldai, y symledd, a'r unoliaeth a'r grymusder angenrheidiol mewn canu cynnulleidfaol.

Yr oedd y blynyddoedd hyn yn ymroddi gydag egni a ffyddlondeb i gynnorthwyo ei fam yn ei hamgylchiadau bydol. Yr oedd yn amlwg yn teimlo hyny yn ddyledswydd arno. Ac yr oedd ganddo fedr mawr i hyny. Yr oedd yntau, fel ei dad, yn naturiol yn hynod o gelfydd yn mhob gwaith llaw ac yn fedrus yn mhob gorchwyl cyffredin yr ymaflai ynddo, ac yr oedd o dueddfryd nas gallai fod yn gysurus o fewn oriau gweithio heb fod gyda rhyw waith. Hyd yn nôd pan yn ymroddi i ddysgu canu neu yn ymarfer â'r tônau ar gyfer ei gyfarfodydd neu ar gyfer y Sabbath, ni byddai braidd byth heb fod ganddo ryw waith llaw yn cael ei ddwyn yn mlaen yr un pryd. A pha beth bynag yr ymaflai ynddo fe'i gwnai â'i holl egni. Ac megis ag yr ydoedd ei hunan felly, nis gallai oddef neb arall a fyddai yn arwyddo gogwydd gwahanol. Nid oedd odid ddim yn blino mwy arno na gweled rhywun