Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/48

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn segura. Yr oedd geiriau Paul, "Os byddai neb ni fynai weithio, na chai fwyta chwaith " yn rhai y cydymdeimlai o'i galon â'u huniondeb. Ennillodd yn fuan awdurdod hollol ar ei frodyr a'i chwiorydd, a hyny heb arfer dim gerwindeb o un math erioed tuag atynt. Eu tystiolaeth unfrydol ydyw ei fod yn hynod o dyner tuag atynt, ac y mae yn dra thebyg genym fod hyny yn un o brif elfenau y dylanwad mawr oedd ganddo arnynt. Yr ydoedd hefyd y pryd hwn, ac yn wir, er yn fachgen, o duedd ofalus, a chynil, a diwastraff. Gafaelodd geiriau Iesu Grist, "Cesglwch y briw-fwyd gweddill, fel na choller dim," yn ddwfn yn ei feddwl pan ydoedd yn dra ieuanc, ac edrychai arnynt fel yn cynnwys egwyddor fawr i'w chymhwyso at holl drugareddau bywyd. Nis gallai ddioddef un math o afradlondeb—ar nac amser, nac arian, na dillad, nac ymborth, nac hyd yn nôd, wedi iddo ddechreu gweithio yn y gloddfa, ar ei llechau hi. Teimlai yn wir ofidus, a chymeryd enghraifft led gyffredin er gosod allan y neillduolrwydd hwn yn ei gymeriad, os byddai rhyw un o'r teulu wedi bod yn esgeulus, wrth godi y cloron o'r ddaear, i'w casglu oll o'r pridd i'r cawell neu y fasged a ddefnyddid ganddynt i hyny. Ond er ei fod fel hyn yn nodedig o gynnil, yr oedd o'r tu arall yn haelionus iawn at achosion teilwng, ac yn hynod o galon agored at drueiniaid mewn caledi. Fe'i gwelwyd tua'r pryd yr ydym yn awr yn sôn am dano yn fynych yn methu ymattal rhag wylo mewn cydymdeimlad â rhai mewn cyfyngderau, ac o'i brinder yn cyfranu yn mhell uwchlaw ei allu er eu cynnorthwyo. Ni bu erioed yn gofalu nemawr am ddanteithion mewn bwydydd na gwychder mewn gwisgoedd. Hyd yn nod wedi iddo dyfu i fynu yn llanc ieuanc nodedig o luniaidd a phrydferth, yr oedd yn ei wrthwynebiad i bob rhodres, yn rhy ddiofal am ei ddillad, ac, yn wir, hyd ddiwedd ei oes, ei gâs beth oedd rhoddi gwisg newydd am dano yn neillduol y tro cyntaf.

Erbyn hyn yr ydoedd dros ddeunaw mlwydd oed. Yr oedd eto yn' parhau, fel plant y Methodistiaid yn gyffredin, i gyrchu i'r cyfarfodydd eglwysig, fel ag yr oedd wedi cael ei arfer o'i febyd, ac yn y ddangos yn hytrach yn hoff o honynt er na chymmerai un ran ynddynt. Ryw fodd,—nis gallwn benderfynu pa fodd—pa un ai gan y gwyleidd-dra naturiol oedd yn ei hynodi, ai oblegyd diffyg teimlad dwys o bethau crefydd ar ei feddwl, ai ynte oddiar ryw esgeulusdra ar du y swyddogion eglwysig yn y lle,—fe'i gadawyd ef yno am flynyddoedd, heb