Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddiddan âg ef, er ceisio penderfynu ei feddwl i ymroddi yn gwbl i ddilyn Iesu Grist, ac i wneuthur proffes gyhoeddus o hono trwy nesau at ei Fwrdd. Yr ydym yn tueddu yn gryf i dybied, oddiar yr awydd mawr a ddangosid ganddo ef ei hunan ar ol hyn i gynnorthwyo ieuenctyd yr eglwys i gymmeryd y cam hwn, ei fod ef yn teimlo fod cryn lawer o ddiffyg wedi bod ar yr hên frodyr yn Nolyddelen gyda golwg arno ef. Ond nid oedd hyny, ysywaeth! ond bai cyffredin yr oes hono, fel mewn gwirionedd, os felly fu, nad oeddent hwy yn fwy euog na'r nifer amlaf o lawer o swyddogion eglwysig y dyddiau hyny. Tua'r pryd hwn, wedi i'r gwaith fod yn sefyll am lawer o flynyddoedd, fe ddaeth ailgychwyn ar hên gloddfa Tan-y-Castell, a daeth llïaws mawr o gloddwyr o Lanllyfni, Llanberis, a lleoedd ereill i weithio iddi. Yr oeddent gan mwyaf yn ddynion ieuainc ac agos oll yn ddigrefydd, a rhai o honynt yn hynod o annuwiol, yn gwbl ddibarch i awdurdod y nefoedd, ac erioed heb ddysgu ymddwyn yn foesgar tuag at eu cyd-ddynion. Daeth rhai o'r gwŷr ieuainc digrefydd hyn i lettya i Tan-y-Castell, ac yr oedd ereill o honynt yn y tai cyfagos. Nid hir y buant yn yr ardal cyn dechreu troi yn erlidwyr hollol ar John Jones, yr hwn oedd yntau yn awr yn gweithio yn y gloddfa gyda hwynt, oblegyd ei grefydd, ac yn neillduol ei fod yn myned i'r cyfarfodydd eglwysig. Daliodd yn erbyn eu herlid hwynt am gryn dymhor, heb ymddangos ei fod yn effeithio nemawr ddim arno, ac heb arwyddo unrhyw duedd i ymollwng gyda'u hudoliaethau. Ond, tua'r un amser, fe ddaeth ymosodiad newydd arno o'r gymdeithas eglwysig ei hunan. Nid oedd erioed, oddieithr fel plentyn gyda phlant, wedi arfer dim ar ei ddawn i weddio yn gyhoeddus. Yr oedd ei fam, er pob ymdrech, wedi methu yn hollol cael ganddo gymmeryd rhan yn yr addoliad teuluaidd gartref. Yr oedd, yn sicr, yn awr mewn oedran ag y dylasai feddwl am hyny, ac yr oedd yn gwbl naturiol i'w achos ddyfod dan sylw yn yr eglwys. Fe ddaeth felly; ac fe ymosodwyd yn gryf iawn arno oblegyd yr hwyrfrydigrwydd a ddangosid ganddo i ymgymmeryd â'i ran gyda gwasanaeth crefydd yn deuluaidd ac yn gynnulleidfaol. Dywedwyd wrtho fod yr amser wedi dyfod y byddai raid iddo bellach ymaflyd yn y gwaith, ac arfer ei ddawn i weddïo yn gyhoeddus yn y Capel; fod yn gywilydd dirfawr iddo yn yr oedran hwnw, a'r doniau oedd ganddo, beidio; ac nad oedd, mewn gwirionedd, o un defnydd iddo aros gyda chrefydd o gwbl yn y dull yr ydoedd; a llawer o bethau cyffelyb.