Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae yn dra ammhëus genym, pa faint bynnag o fai allai fod arno ef, a arferwyd tuag ato, yn ngwyneb yr amgylchiadau, y doethineb a'r tynerwch a ddylesid. Disgynodd hyn oll ar ei deimladau yn ddieithr iawn. Fe ymddengys yn neillduol i'r awgrymiad nad oedd o un defnydd iddo aros gyda chrefydd o gwbl fel yr ydoedd, adael effaith tra annymunol ar ei feddwl. Dychymygodd ar unwaith ei fod yn arwyddo llawer mwy nag a ddywedid,—fod y swyddogion yn barnu nad ydoedd efe yn gymhwys i fod yno mewn un modd, ac mai gwell ganddynt fyddai iddo ymadael. Aeth adref y noswaith hono yn dra archolledig. Nid oedd, pa fodd bynag, yn teimlo yn gymmaint yn chwerw at yr hên frodyr ag yn llwfr a digalon ynddo ei hun. Un o'r dyddiau canlynol, fe ymosododd y bechgyn yn y gloddfa yn annghyffredin arno, yn y dull yr oeddent wedi arfer gwneuthur laweroedd o weithiau cyn hyny; a rhwng yr hyn a ddigwyddasai y noswaith o'r blaen yn y cyfarfod eglwysig ac ymosodiad ei gyd-weithwyr, pan daeth y cyfarfod canlynol, nid oedd John yno. Dychrynodd ei fam drwyddi. Ofnodd yn y fan fod ei mab ar adael eglwys Dduw. Ni chafodd un gradd o hyfrydwch yn y cyfarfod hwnw, yn gymmaint a bod ei le ef yn wâg. Yn union wedi cyrhaedd y tŷ, mewn pryder mawr, aeth i ymddyddan âg ef, gan gyflwyno ger ei fron bob cymhelliad y gallai ar y pryd feddwl am dano i'w gadw rhag gwrthgilio. Ond ni thyciai dim. Er ymddyddan âg ef lawer gwaith, a gweddïo llawer drosto, a wylo llawer yn ei achos, cyn y cyfarfod canlynol ac am wythnosau ar ol hyny, methodd yn hollol a'i berswadio i ddyfod mwyach gyda hi, fel o'r blaen, i'r cyfarfodydd eglwysig. Gwerthodd ei enedigaeth fraint, troes ei gefn ar eglwys Dduw ac ar gymdeithas y saint, ac ymddangosai fel un yn penderfynu byw bywyd digrefydd. Y mae y cysylltiad oedd rhyngddo, hyd yn hyn, âg eglwys weledig Crist ar y ddaear yn awr wedi ei dòri, ac yntau, o ran pob dysgyblaeth a allai ddyfod oddiyno arno, yn rhydd i ddilyn arferiadau llygredig ac annuwiol y byd o'i amgylch. Fel hyn y mae y dysgwyliadau mawrion a goleddid o berthynas iddo pan ydoedd yn blentyn yn ymddangos yn debyg iawn i gael eu siomi, a'r ansicrwydd mwyaf wedi ei daflu ar yr hyn a allai ei gymeriad a'i ymddygiadau fod mewn blynyddoedd dyfodol. Ofnai llawer mai myned yn mhellach, bellach, oddiwrth grefydd a wnai tra yr oedd ereill yn dra gobeithiol fod rhywbeth eisoes ynddo a'i harweiniai cyn pen hir i droi yn ol ac ail geisio ei le yn nhŷ'r Arglwydd. Yr oedd ei chwïorydd