Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hŷn nag ef yn dra hyderus mai felly fyddai. Yr oedd ei fam yn bruddaidd ac yn bryderus, ac yn tueddu i ofni y gwaethaf: eto yn meddwl llawer am eiriau ei phrïod wrthi, ychydig amser cyn iddo ei gadael, yn nghylch ei blant, ac yn fwy penderfynol nag erioed na chai y nefoedd ddim llonydd ganddi ar ei ran hyd nes y gwelai arwyddion cyfnewidiad arno.

Ychydig a feddyliai John Jones wrth gymeryd y cam hwn am y pryder mawr a barai ei ymddygiad i'w gyfeillion goreu, i'w chwiorydd tyner, ac yn enwedig i'w anwyl fam; a llai fyth, fe ddichon, a ddychymygai y byddai yr ymddygiad mewn blynyddoedd dyfodol yn achos y fath dristwch iddo ef ei hunan. Ond felly mewn gwirionedd y bu. Dyma yr unig ofid mawr a dynodd arno ei hunan ar hyd ei oes. Nid oedd ei gydwybod yn gallu ei gondemnio am ddim arall ag yr oedd y byd yn adnabyddus o hono. Ond yr oedd yn ei gondemnio am hyn. Nis gallai byth gofio am dano heb gywilyddio oblegyd ei ynfydrwydd. Yr oedd yn gweled ac yn teimlo ei fod wedi gwneyd bwlch yn ei grefydd nas gellid ei gyfanu byth. A thra y gwyddai nad oedd ymddygiadau rhai o'r hen frodyr tuag ato yn gyfryw ag y gellid eu cyfiawnhau, eto yr oedd, hyd y diwedd, yn teimlo nad oedd hyny mewn un modd yn ei esgusodi ef; ac yn ymwybodol fod ei wrthgiliad yn cyfodi oddiar elyniaeth ei galon ei hunan at awdurdod y Brenhin mawr. Yr oedd yn cofio byth iddo, fel y gŵr ieuanc yn y ddammeg, adael tỷ ei dad, "cymmeryd ei daith i wlad bell," gyda'r bwriad i "fyw yn afradlawn."