Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III.

EI YMDAITH YN Y WLAD BELL: 1816—1819.

Agwedd meddwl John Jones tra allan o'r Eglwys—mae yn penderfynu mynu gweled Gwagedd y byd—Ffair Llanrwst—ofnau ei Fam—ei ddychweliad brysiog o'r Ffairei symudiad i Langernyw—y canu yn Llan y plwyf—Henry Rees yn pregethu yn Llangernyw, a theimlad John Jones wrth ei wrandaw—y canu yn Cefn Coch—y pennill yn gorcbfygu y cantor—"Diwygiad Beddgelert"—Cyfarfod Gweddïo yn Beudy y Ddôl—John Jones yn ymuno â'r Eglwys

Y MAE John Jones yn awr wedi ymryddhau yn gwbl oddiwrth y broffes Gristionogol ac yn hyny heb ddim gwahaniaeth rhyngddo a dynion y byd yn gyffredin. Y mae wedi gwneyd yr hyn a wnaed gan gannoedd o blant rhïeni crefyddol yn Nghymru, ymwrthod âg iau Crist, ac ymddangos fel yn dewis gwasanaeth Satan yn ei le. Yr oedd yn awr rhwng deunaw a phedair-ar-bymtheg oed, ac felly mewn adeg nodedig o beryglus i syrthio yn ysglyfaeth i arferion annuwiol yr oes, ac o ran ei amgylchiadau, fel gweithiwr yn y gloddfa, yn mhlith cynnifer o ddynion ieuainc mor lygredig a digrefydd, mewn modd neillduol yn agored i liaws mawr o demtasiynau i hyny. Nid ydym yn gwybod yn hollol i ba raddau y ciliodd ei fryd yn y cyfnod hwn oddiwrth bethau crefydd. Yr ydym yn barnu oddiwrth ryw bethau a glywsom o'i enau ef ei hunan, iddo fyned yn lled bell, neu, a defnyddio ei iaith ei hunan, "yn galed iawn." Bu yn hir iawn yn cael ei flino yn enbyd gan ysbryd ammheuaeth ac anffyddiaeth, ac yr oedd yn dra sicr ei hunan, pe na chadwesid ef rhag llithro i ddull cyffredin y nifer amlaf o'i gyd-ieuenctyd o fyw, y buasai yr ammheuon a ymosodent arno y pryd hyny yn ei orchfygu ac y daethai yn anffyddiwr hollol. Eithr yn ngofal yr Arglwydd am dano fe'i cadwyd yn gwbl rhag ymollwng i unrhyw lygredigaeth cyhoeddus, ac nid yn unig hyny, ond yr oedd ei ddifrifwch ymddangosiadol yn gymmaint ag erioed. Ymgadwai yn ofalus rhag ymgymysgu dim âg ieuenctyd gwylltion yr ardal, oddieithr yn unig yr hyn yr oedd dan angenrheidrwydd iddo fel cyd-weithiwr â rhai o honynt, a chadwai