Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/53

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyfan-gwbl oddiwrth eu harferion. Yr ydoedd hefyd yn gyson ar y Sabbathau ac ar nosweithiau yn yr wythnos, megis cynt, yn yr holl foddion a gynnelid yn y Capel, oddieithr y cyfarfod eglwysig, ac yn ymddangos yn feddylgar a difrifol iawn ynddynt. Ymroddai yn ei oriau hamddenol at gerddoriaeth, fel o'r blaen, os nad yn fwy nag erioed, a pharhai yn ddiwyd a gofalus dros ben gydag amgylchiadau ei fam a'r teulu. Ni chlybuwyd erioed am ddim anfoesol yn cael ei roddi yn ei erbyn, ac ni allasai neb wybod oddiwrth ei fuchedd gyffredin nad ydoedd yn parhau yn aelod eglwysig. Yr oedd pryder dirfawr, yr un pryd, yn parhau yn meddwl ei fam yn ei achos, a'i gweddïau yn amlach ac yn daerach nag erioed ar ei ran. Yr oedd yn dyfod yn fwy fwy argyhoeddedig o'r peryglon yr oedd ei mab yn agored iddynt tra nad oedd ei feddwl wedi ei rwymo yn hollol i grefydd, yn neillduol oddiwrth annghrefydd y gwŷr ieuainc oeddynt yn y gloddfa, y rhai y byddai, er ei holl neillduedd, yn gorfod dyfod i gyfarfyddiad mynych a hwynt. Yr oedd y tynerwch gwastadol a ddangosid ganddo yntau tuag ati hithau yn gyfryw ag oedd yn effeithio yn ddirfawr arni hi. Nis gallai ddioddef gweled unrhyw boen ar feddwl ei fam. Yr oedd ei ofal am dani yn nodedig, a'i ymroddiad i'w chymorth yn ei hamgylchiadau y fath a phe buasai yr holl ymddiried yn gorphwys arno ef ei hunan. Yr oedd ei achos felly yn pwyso yn drwm iawn ar ei meddwl. Achubai bob cyfleusdra a gaffai i ymddiddan âg ef ar bethau crefydd, a hyny yn y dull a chyda'r dymmher fwyaf tyner ac eto heb gelu oddiwrtho y drafferth yr oedd ei meddwl ynddi yn ei gylch. Yr oedd hi hefyd y pryd hwn yn fwy gofalus nag arferol i'w wneyd yn mhob modd mor gysurus ag y gallai. Ac wedi myned i'w hystafell wely gweddïai drosto wrth ei enw, a chlywwyd hi yn fynych yn ngwyliadwriaethau y nos, megis gwraig galed arni, yn ymdrech â'r nefoedd ar ei ran.

Dygwyddodd un amgylchiad hynod, ryw bryd yn y tymhor ag yr ydym yn awr arno, y gellir ar ryw ystyr ei olygu fel un o'r rhai pwysicaf yn ei holl fywyd. Yr oedd rhyw awydd wedi ei feddiannu am gael golwg ar ddull y byd ac arferion ei gyfoedion ieuainc yn y ffeiriau a'r marchnadoedd. Nid oedd erioed o'r blaen wedi arwyddo unrhyw duedd at ddim o'r fath, ond bob amser yn edrych arno ac yn siarad am dano gyda chryn fesur o ddirmyg. Yn wir, fel y sylwasom eisoes, yr oedd i olwg pawb yn eithaf pell oddiwrth bob gwammalrwydd. Yr edd ei feddwl yn awr, dybygid, ar gymeryd cyfeiriad arall. Yr oedd