Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffair fawr i fod yn Llanrwst, ac fe benderfynodd yntau fyned yno gydag ieuenctyd ereill o'r gymmydogaeth, ac fe ddywedodd hyny wrth ei fam. Nid oedd ganddo unrhyw neges i fyned yno, ac yr oedd yn addef hyny, ond yn unig er mwyn ei gweled a gweled pa fodd y byddent yn ymddwyn yno. Effeithiodd y penderfyniad hwn o'i eiddo yn ddirfawr ar feddwl ei fam. Ymdrechodd â'i holl egni, ond yn y modd mwyaf tyner, ei berswadio i beidio a myned. Gosododd ger ei fron y perygl oedd iddo gael ei lithio i ynfydrwydd cyffredin yr ieuenctyd a gyrchent i'r cyfryw leoedd, a cheisiai ddangos iddo nad oedd berw a gwylltineb ffair mewn un modd yn gweddu i neb parchus oddieithr pan y byddai neges yn galw am hyny. Ond hollol ofer oedd ceisio ei droi. oedd wedi gwneyd ei feddwl i fynu i fyned. Erbyn hyn yr oedd ei fam yn ofni yn fawr ei fod mewn gwirionedd yn myned i ymollwng gydag oferedd ieuenctyd gan y gwyddai, a'i fod yntau yn cydnabod, nad oedd ganddo unrhyw neges bennodol yn galw arno fyned i'r fath le. Ymroddodd i weddïo mwy drosto heb sôn gair am ei thrallod wrth neb yn y tŷ, ond cadw y cwbl yn ddistaw rhyngddi hi ei hunan a'i Duw. Deallodd ei merch henaf, pa fodd bynnag, fod ei mam yn teimlo yn ddwys yn yr achos, ac ymddiddanodd â'i brawd er ceisio ei berswadio i beidio myned gan ei bod yn gwybod fod eu mham yn poeni yn ddirfawr o'r herwydd. Ond ni thyciai dim a ddywedid ganddi i'w attal. Yr oedd wedi penderfynu myned, wedi addaw myned, ac yr oedd yn rhaid iddo gael myned, ac yr oedd efe yn methu gweled pa niwed oedd ei fam a hithau yn ddychymygu a allai ddigwydd iddo trwy fyned, fod ereill yn myned a phaham nad allai yntau. O'r diwedd y boreu a ddaeth a threfnodd yntau ei hunan yn brydlawn at gychwyn, ac yr oedd ei fam wedi darpar pob peth yn gysurus iddo ar gyfer y daith a'r dydd. Pan oedd yn cychwyn, cynghorodd ef yn serchus i ymdrechu cadw ei le. Ceisiai wenu yn ei wyneb ond yr oedd ei dagrau yn treiglo yr un pryd. Fel yr oedd yn myned o'r tŷ, dywedodd wrtho," John bach, cofia am dy dad;-paid a diystyru ei weddïau; gwylia wneuthur dim a bâr i'w weddïau taerion drosot fyned yn ofer." Ar hyny troes John draw gyda newidiad gwedd ac yn ymddangos eisoes, braidd, fel pe buasai mwyniant y dydd wedi ei ddinystrio iddo. Yr oedd ganddo feddyliau mor uchel am ei dad fel nas gallai prin oddef un cyfeiriad ato heb deimlo, ac yr oedd yn cofio yn dda ei weddiau dros ei blant, fel yr oedd crybwyll am hyny yn naturiol yn