Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

effeithio yn ddwys arno. Wedi iddo fyned ymaith yr oedd y fam ofalus a meddylgar yn bryderus iawn yn ei achos. Nid oedd nemmawr o eiriau i'w cael oddiwrthi y diwrnod hwnw. Ymddangosai fel pe buasai wedi ymgolli mewn gweddïau drosto, ac yr oedd difrifwch a dwysder dieithrol ar ei gwedd. Enciliai yn fynych yn ystod y dydd i'w hystafell wely, ac yr oedd y chwiorydd yn deall yn dda ei bod mewn ymdrech yno yn ymbil à Duw ar ei ran. Nid oedd yn gweled fod gobaith am ei mab yn wyneb y peryglon newyddion yr oedd y dydd hwnw, gyda'r fath wirfoddolrwydd ac mor benderfynol, wedi gosod ei hunan yn agored iddynt, ond yn unig yn amddiffyn "Tad yr ysbrydoedd." Ac yr oedd yr olwg ddiweddaf a gawsai arno pan yn gadael y tŷ i fyned i safn y brofedigaeth wedi rhoddi rhyw ychydig o obaith yn ei meddwl y gwrandawai yr Arglwydd ei gweddïau drosto. Ond yr oedd yn deall diben gweddi yn rhy dda i gymmeryd unrhyw arwydd o'r fath yn ddim amgen nag yn gymhelliad i daerni mwy ar ei ran. Tŷ gweddi, mewn gwirionedd, oedd Tan-y-Castell y diwrnod hwnw.

Nid ydym yn gwybod pa beth oedd agwedd ei feddwl ef ar ei ffordd i Lanrwst. Yr oedd yn myned gydag ereill, ac y mae yn bosibl nad oedd eu cymdeithas a'u hymddyddanion hwy heb ryw gymaint o ddylanwad i'w dynu oddiwrth y pethau a fuasent, ped aethai wrtho ei hunan, yn naturiol yn rhedeg trwy ei feddwl. Yr un pryd, y mae yn anhawdd iawn genym dybied ei fod ef, yr hwn oedd yn wastadol y pryd hyny mor dawedog mewn cymdeithas, yn rhyw siaradus iawn y boreu hwnw. Mae yn haws genym gredu fod y cyfeiriad a wnelsid at ei dad. yn y gair diweddaf a ddywedasai ei fam wrtho, wedi ymaflyd mor gryf ynddo fel nas gallai yn hawdd ymryddhau oddiwrtho, a'i fod yn naturiol wedi ei arwain ganddo i adgof am dano, ei weddïau, a'i gynghorion, a'i angau; ac, oddiwrtho ef, i adgofio ei deimladau ei hunan pan yn blentyn, yn enwedig ei deimladau pan y bu farw ei dad y gwerth mawr a welid ganddo y pryd hyny mewn crefydd, a'i benderfyniad i ymroddi i'w cheisio iddo ei hunan ac i gysegru ei oes i gymhell ei hawliau ar feddyliau ei gyd-ddynion, a'r hyfrydwch mawr a brofid ganddo yn yr ymgais i wneuthur hyny gyda phlant y gyinmydogaeth, tra y mae yn awr wedi gadael y broffes o grefydd yu gwbl ac ar ogwydd cryf at gydymffurfiad âg arferiadau mwyaf llygredig yr oes. Nis gallwn ammheu din nad oedd y fath feddyliau yn rhedeg trwyddo, gyda gradd o ddifrifwch, ar ei ffordd i'r ffair. Ond