Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pa feddyliau bynnag oedd ynddo, y mae yn awr wedi ei chyrhaedd. Yr oedd yr olwg arni yn dra dieithrol iddo ef, ac, o'r cyntaf, ymddangosai yn siomedig. Edrychodd ychydig o'i amgylch ar y naill beth a'r llall, ac aeth am ysbaid i blith yr anifeiliaid. Synai yn fawr weled yno gynnifer, fel efe ei hunan, i bob golwg heb un neges ganddynt, ac yn neillduol yr oedd y wedd anystyriol a difoes oedd ar yr ieuenctyd yn enwedigol yn ei daro fel peth hollol annheilwng i greaduriaid rhesymol. Wedi ychydig ymdroi ar yr heolydd fe aeth gyda rhyw nifer o wyr ieuainc i dafarndŷ, a galwodd pob un o honynt am haner peint o gwrw. Yr oedd hwnw yn dra annghynnefin i John, gan nad oedd ganddo un archwaeth at y fath ddïodydd. Yn fuan wedi eistedd i lawr a chael y ddïod ger bron, aeth un o'i gymdeithion allan, heb ddywedyd dim, ac heb fod gan John un dychymmyg i ba beth, am nad oedd yn adnabyddus âg arferion ieuenctyd, nac yn gwybod am y cynllun a drefnasid ganddynt hwythau i'w rwydo ef. Yn mhen ychydig funudau fe ddaeth y gŵr ieuanc yn ol i'r tŷ a nifer o ferched ieuainc gydag ef, a rhoddodd hwynt i eistedd gyda'r gwŷr ieuainc, ac felly dodwyd un o honynt wrth ochr John. Yr oedd y peth yn newydd hollol iddo, ac wedi ei wneuthur yn hollol annysgwyliadwy ganddo. Cythryblwyd ef trwyddo yn y fan. Gwelodd—teimlodd—ei fod yn rhoddi rhyw gam dieithr a pheryglus iawn. Edrychai arno ei hunan yn llithro braidd yn ddiarwybod iddo ei hun i arferion llygredig y wlad y clywsai gymaint am danynt, ac y rhybuddiasid ef gymaint yn eu herbyn. Cofiodd am ei fam. Adgofiodd am weddïau ei dad. Dychrynodd yn ddirfawr a chyfododd i fynu yn ddisymwth. Gadawodd y cwrw heb yfed ond ychydig o hono, a gadawodd ei gyfeillion ieuainc, ac aeth allan o'r ystafell ac o'r tŷ heb ddywedyd gair wrth neb. Cyrhaeddodd yr heol; ymwthiodd ar frys trwy ferw y Ffair; brasgamodd allan o'r dref; a phrysurodd tuag adref a'i enaid wedi ei ffieiddio ar arferion ynfyd ieuenctyd gwylltion a'u dadwrdd ofer, a hyny braidd cyn iddo gael prawf o honynt.

Buasai yn dda genym pe cawsem adroddiad manwl, odditan ei law ei hunan, o'i fyfyrdodau pan yn dychwelyd fel hyn yn frysiog tuag adref. Yn niffyg hyny nid oes genym ond dyfalu, oddiwrth yr ychydig eiriau a gafwyd ganddo wedi iddo gyrhaedd y tŷ, am y meddyliau o'i fewn ar yr adeg bwysig yma yn ei fywyd. Ond prin y gallwn ammheu nad oedd yn awr yn gweled yn fwy eglur y dibyn ofnadwy y buasai ar