Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei fin, ac nad oedd ei enaid yn dechreu bendithio Duw am y waredigaeth fawr a gawsai, trwy roddi cymhorth iddo i adael y lle yr hudasid ef iddo, a'r cymdeithion annuwiol yr oedd wedi ymrestru yn eu mysg. Y mae yn debyg iddo hefyd y diwrnod hwnw gael ei arwain i weled ac i deimlo, yn fwy nag erioed, wagedd pob peth ond crefydd tuag at wneyd i fynu anghenion enaid dyn, a'i fod mewn ymbil caled gyda Duw am gael ei wneyd ei hunan yn etifedd o honi.

Cyrhaeddodd ei gartref yn gynar yn y prydnawn, er mai ar ei draed yr ydoedd, a bod ganddo tua naw milltir o ffordd i'w cerdded. Synodd y teulu ei weled wedi dychwelyd mor gynar, ac ofnai ei fam, ar y cyntaf, fod rhyw anhwyl ar ei iechyd, gan ei fod yn edrych braidd yn llwydaidd, ac nad oedd yn arwyddo un tuedd i siarad. Gofynodd ei fam iddo yn lled gyffrous, a oedd yn wael, a oedd rhyw anhwylder arno. Atebodd yntau, nad oedd dim. Gofynodd iddo drachefn, a oedd rhyw un wedi gwneyd rhyw beth iddo, neu wedi dywedyd rhyw beth atgas ac annymunol wrtho. Atebodd yntau, nad oedd neb. Gofynodd hithau iddo, a fuasai efe yn Llanrwst. Atebodd yntau, iddo fod, eithr na buasai yno ond ychydig iawn o amser. Gofynodd iddo am y Ffair, a oedd hi yn lled fywiog ar bethau? a pha fodd yr oedd prisiau yr anifeiliaid? Ond y cwbl a gai gan John ydoedd, "Yr oedd hi fel arferol am a wn i." Yna gofynodd iddo, a oedd arno eisiau rhywbeth i'w fwyta. Dywedodd yntau nad oedd wedi cael dim y diwrnod hwnw ond a gawsai yno cyn cychwyn yn y boreu, am na welsai unlle cysurus i gael tamaid o fwyd, gan fod cymmaint o ferw pobl yn mhob man. Ar hyn, deallodd ei fam nad oedd wedi cael fawr o flas ar y Ffair, nac ar wylltineb yr ieuenctyd yno, a meddyliodd hefyd fod yr Arglwydd wedi gwrandaw ei gweddïau yn hyny ar ei ran. Siriolodd ei gwynebpryd gan lawenydd ei chalon, tra ar yr un pryd y treiglai dagrau diolchgarwch dros ei gruddiau. Yna, gyda bywiogrwydd ac awdurdod, gorchymynodd i'r merched barotoi bwyd iddo yn ddioed fel pe buasai gŵr dieithr wedi dyfod i ymweled â'r teulu, ac nis gallai ymattal heb gynnorthwyo ei hunan i gael pob beth yn barod iddo ar frys. Ar ol bwyta, dywedodd wrth ei fam, "Wel, fy mam, ni bydd raid i chwi byth eto geisio fy rhwystro i i fyned i Ffair. Ni welais i un lle mor ddiflas erioed. Mae y peth y mae pobl ieuainc yn alw yn bleser y peth ynfytaf a welais i erioed. Yr hen ffyliaid didoriad! Nid af i byth eto yn agos atynt, na byth i Ffair eto os na bydd raid i mi